21 Awst 2018

 

 

richard tudor weighing cattle

Yn ystod y mis hwn, bydd Cyswllt Ffermio yn darparu dau weithdy hyfforddiant hanner diwrnod o hyd ar ran Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) i helpu ffermwyr a choedwigwyr leihau’r perygl o ddamweiniau a’u cynorthwyo i wneud eu busnesau fferm neu goedwigaeth yn lleoedd mwy diogel i weithio ar eu cyfer nhw, eu teuluoedd a’u gweithwyr.

Mae’r digwyddiadau yn rhan o ymgyrch barhaus i godi ymwybyddiaeth a lansiwyd yn gynharach yr haf hwn gan Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, cydweithrediad rhwng pob un o’r rhanddeiliaid amaethyddol allweddol yng Nghymru, sy’n gweithio gyda’i gilydd i leihau’r ystadegau torcalonnus o farwolaethau ac anafiadau ar ffermydd yng Nghymru bob blwyddyn.

Cynhelir y digwyddiadau hyfforddiant hanner diwrnod nesaf gan Cyswllt Ffermio rhwng 1yp a 4yp ar y dyddiadau canlynol:

 

Dydd Mawrth, 28 Awst ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, LD2 3SY

Dydd Mercher, 29 Awst ym Marchnad Da Byw Rhuthun, LL15 1PB

 

Bydd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys arddangosiadau neu gyflwyniadau byr, ymarferol yn ymwneud â diogelwch cyffredinol ar y fferm a fydd hefyd yn trafod diogelwch plant; trin da byw’n ddiogel; gweithio’n ddiogel ar uchder; defnyddio cerbydau pob tirwedd a pheiriannau fferm gan gynnwys peiriannau codi a thractorau, ac ymdrin â chemegau peryglus.

Dywed Brian Rees, cadeirydd y bartneriaeth a mentor Iechyd a Diogelwch cymeradwy Cyswllt Ffermio, fod y rhain yn feysydd gwaith ble mae nifer fawr o ddamweiniau’n digwydd.

“Rydw i’n falch bod cymaint o unigolion o bob oedran sy’n cynrychioli cymaint o wahanol sectorau yn y diwydiant bellach wedi mynychu’r gyfres ddiweddaraf o ddigwyddiadau hyfforddiant a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio.

“Os bydd mwy o ffermwyr yn cael eu dysgu i adnabod y peryglon trwy fynychu un o’r gweithdai, ac yna’n cymryd y camau angenrheidiol i’w lleihau, byddwn yn cymryd camau cadarnhaol iawn i fynd i’r afael â’r broblem."

“Mae pob marwolaeth, pob anaf, a phob afiechyd yn un yn ormod, sy’n gallu cael effaith drychinebus a all newid bywydau teuluoedd ffermio.  

“Byddem yn annog ffermwyr o bob oedran i gymryd prynhawn i ffwrdd o’r gwaith i fynychu un o’r digwyddiadau, gan gynnwys myfyrwyr a ffermwyr ifanc sy’n cychwyn ar eu gyrfa yn y diwydiant.    

“Gallai achub bywyd rhai, a byddwn yn dangos i chi bod nifer o ffyrdd y gallech leihau’r perygl o ddamweiniau ac anafiadau i chi, eich teulu a’ch gweithwyr, neu i rai sy’n ymweld â’ch fferm, megis milfeddygon, ymgynghorwyr proffesiynol neu rai sy’n cludo deunyddiau.

Cyhoeddodd y bartneriaeth lyfryn diogelwch fferm yn ddiweddar sydd ar gael am ddim os byddwch hi’n mynychu un o sioeau amaethyddol rhanbarthol y tymor ble mae Cyswllt Ffermio yn bresennol, neu gallwch lawr lwytho copi yma.

Gall ffermwyr cymwys hefyd ymgeisio am hyd at 22.5 awr o gyngor cyfrinachol wedi’i ariannu’n llawn gan un o fentoriaid ‘iechyd a diogelwch fferm’ cymeradwy Cyswllt Ffermio sydd bellach yn rhan o’r rhaglen fentora lwyddiannus.

“Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn ymwybodol eu bod yn torri corneli o dro i dro ac nad ydynt bob amser yn dilyn y gweithdrefnau cywir, yn enwedig wrth weithio ar eu pen eu hunain neu dan bwysau, ond gallai cael arbenigwr i ymweld â’ch fferm mewn sefyllfa anffurfiol a nodi, yn gwbl gyfrinachol, yr hyn y gellir ei wneud i leihau neu waredu’r peryglon arbed eich bywyd chi neu rywun sy’n agos i chi,” meddai Mr Rees.

Mae archebu lle ar gyfer digwyddiad ymwybyddiaeth diogelwch fferm ‘Arbed bywydau a bywoliaeth’ yn hanfodol, a gallwch wneud hynny naill ai ar lein neu drwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.

Gall ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gwblhau modiwl e-ddysgu yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch, sy’n un o’r amodau os ydych chi’n dymuno ymgeisio ar gyfer cyrsiau ymdrin â pheiriannau. Am ragor o fanylion neu i lawr lwytho taflen yn ymwneud â diogelwch ar y fferm, ewch i dudalen Iechyd a Diogelwch ar ein gwefan.

 

Gwybodaeth gefndirol:

Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) yn gydweithrediad rhwng pob un o’r sefydliadau allweddol sy’n cynrychioli amaethyddiaeth a diwydiannau cysylltiedig yng Nghymru. Mae’r partneriaid wedi ymrwymo i gydweithio dros ddiwydiant ffermio mwy diogel yng Nghymru trwy leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau ymysg ffermwyr, eu teuluoedd, gweithwyr fferm ac eraill sy’n dod i gysylltiad â gweithgareddau ffermio.

Mae’r sefydliadau partner yn cynnwys: Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFFI Cymru) Country Landowners Association Cymru (CLA Cymru), Farm Community Network (FCN) Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Hybu Cig Cymru (HCC), Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH), Lantra Cymru Llywodraeth Cymru, NFU Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, RABI Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE – rôl ymgynghorol).


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu