4 Mehefin 2019

 

geraint evans and james evans 1 0
Gallai cynhyrchwyr gwartheg sugno bîff haneru’r cyfnod y cedwir gwartheg dan do a chostau cysylltiedig trwy sefydlu system pori mewn cylchdro.

Mae James Evans wedi profi bod hyn yn bosibl ers iddo sefydlu’r system pori ar gyfer y fuches o 300 o wartheg Stabiliser y mae’n eu cadw o dan gytundeb ffermio contract.

Mae wedi cwtogi’r cyfnod cadw gwartheg dan do o chwe mis i ddim ond tri ac wedi sicrhau gostyngiad o 50% yn y defnydd o silwair.

Yn ystod Digwyddiad Trosglwyddo Gwybodaeth yng Ngheredigion, cyfaddefodd Mr Evans bod penerfyniad i droi at gynhyrchu organig gan berchnogion y fferm wedi newid ei agwedd at laswellt a borir.

 “Yn hytrach na derbyn llai o elw a chynhyrchiant trwy gadw pethau fel yr oeddent, fe wnaethom ni benderfynu canolbwyntio ar ragor o laswellt,” meddai Mr Evans, sy’n ffermio yn Fferm Partridge, Trefesgob.

Fe wnaeth gyflogi ymgynghorydd pori fel “pâr ffres o lygaid”. “Fe wnaeth i mi sylweddoli nad oeddem ni’n defnyddio glaswellt fel y dylem ni,” meddai Mr Evans wrth ffermwyr oedd yn mynychu’r digwyddiad yn Fferm Penrallt, Llantwyd, a gynhaliwyd yno trwy garedigrwydd Geraint Evans.

Crëwyd nifer o leiniau 1 hectar (ha) trwy osod ffens drydan led-barhaol o amgylch perimedr y llecyn a gafodd ei glustnodi i’w bori, a rhannwyd y lleiniau hyn ymhellach â ffensys trydan. 

Caiff pob llain ei bori am ddau neu dri diwrnod gan 40-50 buwch a’u lloi.

 “Mae pori mewn cylchdro wedi caniatáu i ni gynyddu ein cyfnod pori. Ni chaiff rhai gwartheg eu cadw dan do o gwbl; byddant yn treulio’r gaeaf ar borfa ohiriedig neu ar gnydau porthi megis rêp a chêl wedi’u tanhadu â rhygwellt Eidalaidd,” meddai Mr Evans.

Cyflenwir dŵr i bob llain trwy gyfrwng cafn cludadwy sydd wedi’i gysylltu â phibellau dŵr uwchlaw’r ddaear.

Mae'r system wedi cynorthwyo i oresgyn yr her o gyflenwi dŵr yfed i bob llain. “Rydym ni oll wedi gweld pori mewn cylchdro yn cael ei ddefnyddio mewn systemau cynhyrchu llaeth, ond nid yw ffermwyr sy’n cadw buchesi sugno yn credu y gallai lwyddo iddynt hwy oherwydd maent yn pori grwpiau llai o wartheg ar y cyfan ac maent yn credu y byddai cyflenwad dŵr yn broblem.

 “Rydym ni wedi gosod y pibellau dŵr ar y tir ac mae hynny’n caniatáu i ni ddefnyddio cafn dŵr cludadwy y gallwn ni ei symud o amgylch bob llain.”

Caiff yr holl deirw bridio eu porthi â glaswellt pan gânt eu gwerthu yn 18 mis oed, ac mae hynny’n creu rhagor o ddiddordeb ymhlith prynwyr, yn ôl Mr Evans. “Mae galw am deirw sydd wedi cael eu magu ar borfa ac sy’n perfformio’n dda ar borfa. Mae ffermwyr yn dymuno defnyddio geneteg anifeiliaid sydd wedi profi y gallant ffynnu ar borfa.”

Bydd Mr Evans yn sgwrsio mewn rhagor o ddigwyddiadau gan Cyswllt Ffermio yn Rhaglan ac yn Rhuthun ym mis Mehefin. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Digwyddiadau Cyswllt Ffermio.

Yn ôl Sarah Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio (De Orllewin Cymru) a threfnydd y digwyddiad yn Fferm Penrallt, roedd Mr Evans wedi profi y gall ffermwyr leihau eu costau trwy roi sylw i reoli tir glas.

 “Mewn arolwg meincnodi diweddar, roedd y 25% uchaf o’r ffermwyr yn monitro eu hargostau, yn canolbwyntio ar fanylion ac yn deall eu marchnadoedd. Mae gwneud defnydd gwell o laswellt a borir yn rhan o hynny,” meddai.

 

Roedd digwyddiad Cyswllt Ffermio yn gyfle hefyd i ffermwyr gael rhagor o wybodaeth am BeefQ, prosiect a gefnogir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Nod prosiect BeefQ yw dilysu system asesu ansawdd bwyta yng Nghymru.    

Cydlynir y prosiect gan Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n gydweithrediad rhwng sefydliadau allweddol o’r byd academaidd a’r diwydiant amaethyddol, yn cynnwys HCC, Menter a Busnes, Celtica Foods Ltd, Prifysgol Queens Belfast, Birkenwood Pty Ltd o Awstralia a nifer o gwmnïau prosesu cig yng Nghymru.

Dywedodd Dr Eleri Price o Hybu Cig Cymru bod y prosiect BeefQ yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gynhyrchwyr cig eidion Cymru.

 “Caiff yr asesiad o’r carcas, ynghyd â gwybodaeth am system cynhyrchu’r anifail a’r dull o brosesu’r carcas, eu mewnbynnu i fodel a wnaiff ragweld ansawdd bwyta toriadau o’r carcas,” meddai.

“Caiff hynny ei wirio gan ddefnyddio system o brofi blas gan ddefnyddwyr. Bydd cynhyrchwyr Cig Eidion Cymru sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig yn gallu gweld data ynghylch ansawdd bwyta’r cig eidion a gynhyrchir ganddynt, a bydd hynny’n helpu i ddarparu cig eidion o ansawdd gwell a mwy cyson ar gyfer defnyddwyr.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 yn cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

Cynghorion James Evans ynghylch sefydlu system pori mewn cylchdro

  1. Mynnwch gymorth gan arbenigwr. “Mae cael pâr arall o lygaid ar y fferm yn amhrisiadwy. Yn aml iawn, ni allwn ni weld beth sydd angen ei wneud oherwydd rydym ni’n rhy agos at ein busnesau ein hunain.”
  2. Dewch yn gyfarwydd â gwario arian trwy ffyrdd gwahanol. Buddsoddodd Mr Evans £15,000 i sefydlu system pori cylchdro, ond roedd hwn yn daliad untro. “Roedd yn ymddangos yn swm sylweddol ar y pryd, er na fyddem ni wedi meddwl ddwywaith am wario £15,000 i brynu ychydig o lwythi o borthiant neu brynu peiriant newydd o dan yr hen system.”
  3. Porwch lain am hyd at dri diwrnod, yna gadewch iddo orffwys. “Pan fyddwch chi’n troi nifer fawr o wartheg i lain, byddant yn dymuno bwyta’r rhannau mwyaf blasus yn unig, ond bydd hyn yn diddymu ffynhonnell egni’r gwreiddiau, gan adael twmpathau glaswellt y bydd yn rhaid eu tocio. Gwnewch iddynt fwyta popeth, ac ymhen amser, fe wnewch chi wella porfa barhaol a fyddai fel arall wedi cael ei hystyried yn anflasus.”
  4. Fe wnaiff seilwaith da hwylsuo’r gwaith o reoli.

Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu