10 Mehefin 2019

 

farmers flock press notice photo llun datganiad ir wasg 0
Fel mae nifer o ffermwyr defaid eisoes yn ymwybodol, gall methu â rheoli a thrin parasitiaid mewnol ac allanol sy’n effeithio ar eu diadelloedd arwain at oblygiadau economaidd a lles difrifol iawn.

Bu Eurwyn Lewis o Gilycwm ger Llanymddyfri yn mynychu gweithdy rheoli parasitiaid mewn defaid yn ddiweddar, rhan o gyfres o ddigwyddiadau iechyd a lles anifeiliaid wedi’i ariannu’n llawn, a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio mewn cydweithrediad â milfeddygon gwledig ledled Cymru. Dywed fod dysgu sut a phryd i roi triniaeth llyngyr wedi bod o fudd mawr.

“Y brif neges a ddysgais o ganlyniad i’r gweithdy yn Llandeilo a ddarparwyd gan Cath Tudor a Merfyn Evans o Prostock Vets, oedd y byddai rhoi triniaeth reolaidd ar ddechrau’r tywydd cynnes, fel mae nifer ohonom wedi’i wneud yn y gorffennol, yn gallu bod yn wastraff amser ac arian. Hefyd, drwy roi triniaeth ddiangen, rydym ni’n adeiladu ymwrthedd i lyngyr sy’n effeithio ar ein defaid, gan wneud triniaethau llyngyr yn llai effeithiol yn y dyfodol.”

Bu’r milfeddyg Cath Tudor yn annog pob ffermwyr i drefnu samplu a phrofi deunydd ysgarthol ar adegau priodol fel rhan o gynllun iechyd y ddiadell, gan nodi os bydd y cyfrif wyau ysgarthol yn negyddol, nid oes angen treulio amser na gwario arian ar driniaethau.  

“Mae’r gweithdai yma’n helpu ffermwyr i ddeall yr angen i ddiogelu effeithiolrwydd triniaethau anthelminitig ac i werthfawrogi pwysigrwydd rhagolygon parasitiaid a chyfrif wyau ysgarthol i sicrhau bod triniaethau llyngyr/ectoparasitiaid yn cael eu rhoi’n brydlon.

Mae Bethan Jones o Roshill, ger Aberteifi, yn gymharol newydd i ffermio defaid gan ei bod hi a’i gŵr yn dod o gefndir ffermio llaeth. 

“Rydw i’n falch iawn fy mod wedi mynychu’r gweithdy. Er mai dim ond 50 o famogiaid sydd gennym ni ar y funud a’n bod yn parhau i ddysgu, yr un yw’r cyngor ar gyfer 50 o ddefaid neu 500, ac rydym ni eisiau sicrhau’r safonau hwsmonaeth gorau posibl ar gyfer ein holl stoc.”

“Roedd cyngor Cath Tudor a’i chydweithiwr Merfyn Evans yn ddefnyddiol iawn, ac un o’r pethau mwyaf gwerthfawr a ddysgais oedd ei bod hi’r un mor bwysig i wybod beth i beidio â’i wneud a’r hyn y dylech ei wneud - felly mae gofyn am gyngor milfeddygol yn hanfodol”.

Roedd pob un o’r gweithdai hefyd yn mynd i’r afael â chylchred bywyd sylfaenol y llyngyr a’r pryfed mewn perthynas â chynhyrchiant defaid; rhoddwyd cyngor ar adnabod arwyddion clinigol haint llyngyr a phryfed, ynghyd ag arweiniad ar gymryd camau priodol i leihau nifer y defaid sy’n cael eu heintio’n glinigol.

Daeth Cath Tudor â’r cyflwyniadau i ben drwy argymell y dylai pob ffermwr siarad gyda’i filfeddyg ei hun ynglŷn ag arferion rheoli a phrotocolau arwahanu er mwyn osgoi cyflwyno llyngyr gydag ymwrthedd. Rhoddodd gyngor hefyd y dylai pob ffermwr siarad gyda’r milfeddyg er mwyn rhoi cynllun cadarn ar waith i reoli parasitiaid.  

Gall ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ymgeisio i fynychu gweithdy iechyd anifeiliaid wedi’i ariannu’n llawn, sy’n ymwneud ag ystod o bynciau sy’n benodol i’r sector. Mae’n bosibl y bydd cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw waith samplu neu brofion angenrheidiol ac adborth gan eich milfeddyg eich hun. Am fwy o fanylion, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol neu cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio a’r rhaglen hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Menter a Busnes a Lantra Cymru yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.  Mae Lantra Cymru yn arwain ar ddarparu rhaglen hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid, sy’n gytundeb ar alw fel rhan o Raglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn llongyfarch ‘y gorau o’r goreuon’ ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2024
17 Ionawr 2025 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut