19 Gorffennaf 2019

 

 

technical publication photo llun cyhoeddiad technegol 0

Oeddech chi’n gwybod bod ein Cyhoeddiad Technegol yn cael ei bostio a’i ddosbarthu at dros 10,000 o fusnesau amaethyddol sydd wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio?

Mae’r Cyhoeddiad Technegol yn un o adnoddau defnyddiol sy’n cael ei ddarparu gan Cyswllt Ffermio, ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr. Mae’n cynnwys cyngor ac arweiniad ynglŷn ag amrywiaeth eang o bynciau, gan roi adnodd i chi, y gallwch gyfeirio ato er mwyn gwirio manylion ein gwasanaethau, a gwybodaeth dechnegol, pan fo angen.

Mae’n cynnwys erthyglau technegol am nifer eang o bynciau, er enghraifft yn y rhifyn hwn mae gennym erthygl am ffermwr bîff yn haneru ei gyfnod gaeafu dan do trwy bori gwartheg drwy system pori cylchdro. Mae diweddariadau technegol hefyd ar gael am eneteg defaid, rheoli parasitiaid, iechyd y traed gwartheg, yr amgylchedd a llawer mwy.

Yn ogystal â hyn, mae’r Cyhoeddiad Technegol, yn ffordd i unigolion a busnesau sydd wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio dderbyn diweddariad am y gwasanaethau, digwyddiadau a chyfleoedd gwych sydd ar gael dros y misoedd i ddod. Yn y rhifyn hwn, rydym gyhoeddi cynrychiolwyr yr Academi Amaeth, hysbysebu’r gynhadledd Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru, rhannu gwybodaeth am y Sioe Deithiol Gynaliadwy, yn ogystal ag amserlen ddigwyddiadau llawn y prosiect, a rhoi syniad i chi am beth fydd ymlaen yn y Sioe Frenhinol gyda Cyswllt Ffermio.

Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn ymdrechu i fod yn fwy cyfeillgar at yr amgylchedd drwy’r ffordd yr ydym yn pecynnu’r Cyhoeddiad Technegol.

Rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn gwneud hyn, ac mae bellach yn cael ei becynnu mewn deunydd sy’n llai niweidiol i’r amgylchedd, sef biopolymer.

Felly, os ydych wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ac yn derbyn y cyhoeddiad – cofiwch y gallwch ei waredu drwy ei roi mewn unrhyw dwmpath compost, yn eich bin gwastraff gardd, neu mewn bin gwastraff bwyd tŷ!

Os nad ydych wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio, ac yn credu y gallwch gael budd o’n gwasanaethau, cyfleoedd a digwyddiadau – cysylltwch â ni! Mae’r rhaglen newydd, integredig Cyswllt Ffermio’n cyflwyno cefnogaeth arloesedd, trosglwyddo gwybodaeth a gwasanaethau cynghori i ffermwyr a choedwigwyr ar draws Cymru gyfan. Mae’n darparu amrediad o wasanaethau a digwyddiadau sy’n cefnogi datblygiad diwydiant tir sy’n fwy proffesiynol, proffidiol, amrywiol a gwydn. Mae’n hybu ymddygiad sy'n canolbwyntio ar y busnes trwy ein rhaglen o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ledled Cymru; cyngor arbenigol a chefnogaeth arloesedd.

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau, neu os ydych eisiau cofrestru er mwyn cael mynediad at yr hyn yr ydym yn ei gynnig, cysylltwch: 08456 000 813 neu ewch ar wefan Cyswllt FfermioRydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o