Hywel Morgan

Lleoliad: Fyddfai

Cyrchfan: Sweden, Ffrainc a Lloegr

Pwnc: Ffermio Mewnbwn Isel, Ffermio Organig, Gwyndwn Llysiau, Rheolaeth Holistaidd a Ffermio Atgynhyrchiol.

Hywel Morgan

Bydd Hywel Morgan o Fyddfai yn ymweld â Sweden, Ffrainc a Lloegr

Mae’r ffermwr defaid o Fyddfai yn Sir Gaerfyrddin, Hywel Morgan, newydd gael ei dderbyn ar Raglen Arweinyddiaeth yr Academi Amaeth felly bydd 2018 yn flwyddyn brysur.  Gweledigaeth Hywel yw gwneud y fferm yn llai dibynnol ar fewnbwn a brynir i mewn ac i weithio mwy gyda natur. Mae’n cydnabod bod angen newid ac mae’n ystyried trosi i gynhyrchu yn organig a gwndwn llysiau a fydd yn cysoni ei fusnes â’r hyn y mae’n credu y mae defnyddwyr ei eisiau wrth symud ymlaen.

“Rwy’n bwriadu ymweld â ffermydd yn Sweden, Ffrainc a Lloegr sy’n defnyddio dulliau rheoli holistaidd adfywiol, cynhyrchu organig a gwndwn llysiau i weld a allai weithio ar fy fferm fy hun a busnesau fferm eraill tebyg yng Nghymru.”

aDRODDIAD cYFNEWIDFA rHEOLAETH