Fferm Carreg Plas, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd

Prosiect Safle Ffocws: Trawsnewid o system stocio sefydlog i system bori Techno Grazing

Nodau’r prosiect

Prif nod y prosiect yw dangos y symudiad o system stocio sefydlog i system bori cylchdro. Bydd y prosiect yn amlygu manteision newid system ac yn darparu glasbrint i ffermwyr sy’n cynnwys y wybodaeth berthnasol sy’n angenrheidiol er mwyn gwella eu busnesau eu hunain. Bydd y prosiect yn amlygu’r ystyriaethau ymarferol sydd ynghlwm, gan gynnwys rhannu’r tir a gosod yr isadeiledd. Mae rheoli’r borfa’n cael ei wneud ar hyn o bryd gyda’r llygad yn unig, ac nid yw’n cael ei gefnogi gan ddata gwirioneddol a gesglir drwy fesur glaswellt yn rheolaidd.

 

Cyflwyniad i’r Prosiect

Glaswellt o ansawdd uchel yw’r ffynhonnell fwyd rhataf ar gyfer ffermwyr y DU, ond mae’n aml yn cael ei wastraffu, ac nid yw’n cael ei werthfawrogi’n llawn bob amser. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod defnydd o’r borfa yn llawer uwch mewn systemau pori cylchdro. Gall defnydd fod cyn uched ag 80%, o’i gymharu â 50% mewn system bori stoc sefydlog (AHDB, 2016). Mae hyn yn caniatáu cyfraddau stocio uwch sy’n arwain at well cynhyrchiant a chynnydd mewn kg o gynnydd pwysau byw fesul ha. Mae gwell cynhyrchiant yn annatod yn arwain at well proffidioldeb. Prif nod y prosiect yw dangos y symudiad o system stocio sefydlog i system bori cylchdro. Bydd y prosiect yn amlygu manteision newid system ac yn darparu glasbrint i ffermwyr sy’n cynnwys y wybodaeth berthnasol sy’n angenrheidiol er mwyn gwella eu busnesau eu hunain. Bu Carreg Plas yn cael ei reoli fel fferm âr yn y 1960au, ac o ganlyniad, mae’r 111ha o dir wedi cael ei rannu’n 7 cae parhaol yn unig, gan olygu bod potensial mawr i gynyddu twf glaswellt a defnydd ohono ar y fferm.

 

Beth fydd yn cael ei wneud:

  • Bydd 26 hectar o dir yn cael ei rannu’n 128 cell ar gyfer 2 grŵp o 40 o wartheg sugno a lloi, gan ddyrannu 3 chell bob dydd mewn cylchdro 30 diwrnod.
  • Asesu gofynion porthiant y da byw ar y fferm i ganfod pa fath o dda byw fyddai fwyaf addas i’w defnyddio yn y system bori cylchdro.
  • Cyfrifo cymeriant DM a ragwelir, asesiad o argaeledd llafur.
  • Dylunio celloedd i weddu i’r anifeiliaid a fwriedir, gan ystyried: topograffeg, cyfeiriad, dŵr, pŵer a symudiad personél/anifeiliaid.
  • Gosod y system a ddyluniwyd.
  • Hyfforddiant ar gyfer y fferm gan gynnwys: defnydd cywir ac effeithlon o offer ffensio a systemau dŵr parhaol/dros dro.
  • Cefnogaeth barhaus i sefydlu a rheoli’r cylchdro pori. Bydd y ffermwr yn cymryd mesuriadau wythnosol o’r borfa gan ddefnyddio mesurydd plât a bydd James Daniel yn ymweld ar adegau penodol.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Dolygarn
James Powell Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod Wells
Bryn
Huw a Meinir Jones Bryn, Ferwig, Aberteifi Meysydd allweddol yr
Marian Mawr
Aled Morris Marian Mawr, Dyserth, Rhyl Prif Amcanion Gwella