Diweddariad Prosiect Fferm Carreg Plas

Mae John ac Ianto Pari, Fferm Carreg Plas hanner ffordd drwy’r cylchdro cyntaf ar system bori Techno 26ha newydd. Mae cyfraddau twf dyddiol o 34.5 KgDM/ha ar ddechrau Mawrth wedi arwain at orchudd glaswellt o 3300 KgDM/ha. Roedd y cae wedi cael ei gau i ffwrdd am 100 diwrnod cyn 28 Ionawr.

Ar hyn o bryd, mae 56 o heffrod 11-12 mis oed yn pori ar y cylchdro cyntaf, gyda phwysau cyfartalog o 309kg. Maen nhw’n cael 0.7ha y dydd, gan bori’r glaswellt hyd at 2250 KgDM/ha, ac yna bydd 30 o wartheg aeddfed sy’n pwyso 650kg yn mynd i mewn i bori’r glaswellt hyd at 1400 KgDM/ha. Rydym ni’n anelu at gwblhau’r cylchdro cyntaf erbyn 20 Ebrill.

 

                                         

 

 

Dadansoddiad o sampl o borfa ffres