Gaerfechan, Cerrigydrudion
Prosiect Safle Ffocws: Gwerth coed ar gyfer unedau dofednod
Mae Gaerfechan wedi arallgyfeirio i fenter cynhyrchu wyau maes sy’n cynnwys uned o 32,000 o adar. Er mwyn cydfynd â’r prosiect, nodwyd yr angen i blannu coed er mwyn creu coetir sy’n adlewyrchu rhai o’r amodau sy’n annog ymddygiad naturiol mewn ieir, gan gynnwys chwilota am fwyd, crafu a throchi mewn llwch.
Nod y Prosiect:
- Cynllun plannu coed, dewis rhywogaeth a diogelwch.
- Technegau gofal a rheolaeth arfer da wrth sefydlu coed mewn ardal ar gyfer ieir sy’n crwydro.
- Lleihau problemau fel cywasgu.
- Canfod buddion a gwerth coed mewn perthynas ag iechyd a lles unedau dofednod.
- Archwilio buddion economaidd y gallai sefydlu cysgod coed ei gael ar unedau dofednod.
- Posibilrwydd bod cysgod coed yn helpu lleihau gormodedd o faetholion.
- Sefydlu’r prosiect fel enghraifft dda o amaeth-goedwigaeth.
- Targedu cynllun coetir llinol sy’n atal allyriadau a gronynnau amonia.
- Canfod effaith plannu coed ar duedd adar i grwydro.