Gaerfechan, Cerrigydrudion

Prosiect Safle Ffocws: Gwerth coed ar gyfer unedau dofednod

 

Mae Gaerfechan wedi arallgyfeirio i fenter cynhyrchu wyau maes sy’n cynnwys uned o 32,000 o adar. Er mwyn cydfynd â’r prosiect, nodwyd yr angen i blannu coed er mwyn creu coetir sy’n adlewyrchu rhai o’r amodau sy’n annog ymddygiad naturiol mewn ieir, gan gynnwys chwilota am fwyd, crafu a throchi mewn llwch.

Nod y Prosiect:

  • Cynllun plannu coed, dewis rhywogaeth a diogelwch.
  • Technegau gofal a rheolaeth arfer da wrth sefydlu coed mewn ardal ar gyfer ieir sy’n crwydro.
  • Lleihau problemau fel cywasgu.
  • Canfod buddion a gwerth coed mewn perthynas ag iechyd a lles unedau dofednod.
  • Archwilio buddion economaidd y gallai sefydlu cysgod coed ei gael ar unedau dofednod.
  • Posibilrwydd bod cysgod coed yn helpu lleihau gormodedd o faetholion.
  • Sefydlu’r prosiect fel enghraifft dda o amaeth-goedwigaeth.
  • Targedu cynllun coetir llinol sy’n atal allyriadau a gronynnau amonia.
  • Canfod effaith plannu coed ar duedd adar i grwydro.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Halghton Hall
David Lewis Halghton Hall, Bangor Is-coed, Wrecsam Meysydd
Nantglas
Iwan Francis Nantglas, Talog, Sir Gaerfyrddin Meysydd allweddol
Cae Haidd Ucha
Paul a Dwynwen Williams Cae Haidd Ucha, Nebo, Llanrwst Prif