Ymunwch â Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio i ddysgu mwy gan arbenigwyr fydd yn trafod cyfleoedd a’r hyn sydd angen ei ystyried wrth gadw moch yn fasnachol fel ffynhonnell arall o incwm.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
Gofynion o ran siediau a lle, Bioddiogelwch, Prynu moch, Cost cynhyrchu, Bwyd a Canfod marchnad.
Dewch i ddarganfod y ffactorau sy'n gysylltiedig i allu gwneud penderfyniad ar arallgyfeirio i foch ar eich fferm.
Yn ogystal, bydd cyfle i ddarganfod a dysgu am elfennau o'r busnes a fydd yn allweddol i lwyddiant:
- gwneud cysylltiadau Newydd, mynediad at gyngor arbenigol
- darganfod beth sydd ar gael a cyfle i fynychu diwrnodiau hyfforddi.
Yn ogystal â throsolwg o weithgareddau Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio, mi i fydd cyn-gyfarwyddwr strategol porc yr AHDB, sydd bellach yn ymgynghorydd annibynnol, Mick Sloyan yn rhoi trosolwg o’r sector â’r cyfleoedd sydd ar gael. Yn ogystal â hyn, mi fydd y ffermwr moch Luke Starkey yn siarad am ei fusnes a’i daith ers ymuno â'r sector foch yn 2017. Mae mynychu un o’r digwyddiadau hyn yn gyfle euraidd i ddysgu a holi arbenigwyr ynghyn ag arallgyfeirio i foch.
Mae dyddiad, asmer a lleoliad y digwyddiad fel a ganlyn:
27/11/2019
19:00 – 21:00
Nantyffin Motel, Llansissilio, Sir Benfro, SA66 7SU
28/11/2019
19:00 – 21:00
Three Salmons Hotel, Usk, Sir Fynwy, NP15 1RY
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.