17 Rhagfyr 2019

 

Mae un o bersonoliaethau amlycaf amaethyddiaeth Cymru, y ffermwr ifanc Chris Hanks, sydd ar hyn o bryd yn Gadeirydd Ffermwyr Dyfodol Cymru, yn rhoi ei gefnogaeth i ymgyrch Cyswllt Ffermio i annog y diwydiant i ganolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP). 

Yn ôl Mr Hanks, un o raddedigion Prifysgol Reading a rheolwr fferm ym Mro Morgannwg, a ymunodd yn ddiweddar â thîm Cyswllt Ffermio o fentoriaid a gymeradwywyd ac sy’n arbenigo ar dreulyddion anerobig a systemau biomas, fe fydd datblygu proffesiynol parhaus yn hanfodol i yrru'r diwydiant yn ei flaen. 

"Rydym ni i gyd yn wynebu heriau anferth, ac mae'n anodd rhag-weld a allwn ni neu yn wir pryd gallwn ni ddisgwyl rhedeg ein busnesau heb y lefelau presennol o ansicrwydd gwleidyddol, amgylcheddol ac economaidd.  

“I lawer o ffermwyr, mae’n bosibl na fydd sefyll yn eich unfan a dal ati i ffermio yn yr un ffordd ag erioed yn opsiwn.

“Allwn ni ddim aros i'r anhysbys ddigwydd, a dyna pam rwy’n annog ffermwyr i baratoi ar gyfer y dyfodol nawr, canolbwyntio ar eu cryfderau a'u galluoedd unigol a chymryd camau i sicrhau eu bod yn barod i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd newydd fydd yn codi." 

Yn y Ffair Aeaf, a gynhaliwyd yn ddiweddar ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, roedd Chris, y mae ei dad William yn un o gyfarwyddwr anrhydeddus y sioe, yn gefnogwr brwd o ddatblygu proffesiynol parhaus, pan lansiodd Cyswllt Ffermio ymgyrch gyhoeddusrwydd i hyrwyddo ei ddarpariaeth DPP newydd ar y we.  Mae’r Storfa Sgiliau yn offeryn at storio data ar-lein yn ddiogel a bydd yn cofnodi holl gofnodion datblygu personol a phroffesiynol y ffermwyr cymwys mewn un lle. 

Dywedodd Mr Hanks y bydd yn annog holl aelodau Ffermwyr Dyfodol Cymru i ddefnyddio'r system, sydd ar gael i bob ffermwr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy eu cyfrif BOSS a Sign on Cymru.  

“Bydd y Storfa Sgiliau yn adnodd gwych i ffermwyr ledled Cymru, ac yn ei gwneud hi'n wirioneddol hawdd iddyn nhw gywain, casglu a diweddaru eu holl gofnodion DPP mewn un lle diogel ar-lein.

"Mae'n gwneud mwy na’r hyn y byddech chi’n ei ddisgwyl, drwy eich galluogi i gael adroddiad digidol neu gopi wedi’i argraffu i'w lawrlwytho a hwnnw’n nodi’ch holl sgiliau, hyfforddiant a chyraeddiadau a’ch tystysgrifau academaidd/proffesiynol perthnasol yn ogystal â darparu'r dystiolaeth y byddai ei hangen arnoch ar gyfer ymweliad gan asesydd gwarant fferm, sefydliad yn y gadwyn gyflenwi neu ddarpar gyflogwr." 

I gael rhagor o wybodaeth am y Storfa Sgiliau, a fydd hefyd yn cynnig canllawiau ar lenwi cv neu gais am swydd yn y flwyddyn newydd, ewch i wefan Cyswllt Ffermio ar ei newydd wedd. Mae’r wefan yn haws ei defnyddio ac mae ganddi well cyfleusterau chwilio, ac mae'n adlewyrchu meysydd polisi Llywodraeth Cymru, sef busnes, da byw, tir, ein ffermydd. Mae hi eisoes wedi’i chroesawu gan randdeiliaid yn y diwydiant. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o