Storfa Sgiliau

yr adnodd storio data’n ddiogel ar-lein ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus

 

Cyfle unigryw i gadw eich holl gofnodion datblygiad proffesiynol a phersonol. 

Gallwch gael mynediad at ddata am eich cymwysterau, sgiliau a datblygiad proffesiynol mewn un lle diogel ar-lein a’u diweddaru.

Gan gymryd eich bod eisoes wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio, gallwch greu ‘proffil personol’ yn y Storfa Sgiliau mewn dim o dro. 
 

Bydd Storfa Sgiliau yn eich galluogi i…

  • Cael mynediad at adroddiad digidol, neu adroddiad mae modd ei lawrlwytho, sy’n cynnwys eich holl sgiliau, hyfforddiant a chyraeddiadau academaidd/proffesiynol perthnasol
  • Rhoi tystiolaeth o hyfforddiant rydych chi wedi’i wneud ar gyfer Cynlluniau Gwarant Fferm a sefydliadau yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys cyfanwerthwyr, adwerthwyr ac ati
  • Cael mynediad at y ffeithiau angenrheidiol i ddiweddaru eich CV (cliciwch yma i weld canllawiau sut i baratoi CV sy’n denu sylw)

Bydd eich cofnod yn y Storfa Sgiliau yn cynnwys... 

Gweithgareddau Cyswllt Ffermio (Bydd Cyswllt Ffermio yn uwchlwytho'r wybodaeth yma ar eich rhan)

  • Pob tystysgrif/hyfforddiant wyneb yn wyneb achrededig Cyswllt Ffermio
  • Pob modiwl e-ddysgu Cyswllt Ffermio rydych chi wedi'i gwblhau
  • Presenoldeb mewn digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio 
  • Cyfranogiad mewn prosiectau datblygiad personol neu fentrau penodol i sector Cyswllt Ffermio 

 
Gweithgareddau nad ydynt yn cael eu cynnal gan Cyswllt Ffermio (Bydd Cyswllt Ffermio yn uwchlwytho'r wybodaeth yma ar eich rhan) 

  • Gall sefydliadau allanol, e.e. grwpiau cynhyrchwyr yn y gadwyn gyflenwi, anfon tystiolaeth o weithgareddau at Cyswllt Ffermio i’w uwchlwytho ar dudalen benodol ar Storfa Sgiliau. 
  • Bydd yr wybodaeth rydych wedi'i storio yma yn cefnogi mentrau presennol y gadwyn gyflenwi.

Fy lle (Cewch eich cynghori i uwchlwytho'r wybodaeth yma eich hun) 

  • Cymwysterau/tystysgrifau neu ddiplomâu academaidd a phroffesiynol
  • Ysgoloriaethau/dyfarniadau (Nuffield, Hybu Cig Cymru ac ati)
  • Rôl bresennol a chyfrifoldebau/cyraeddiadau ar y fferm ac oddi arni
  • Swyddogaeth(au) a chyfrifoldebau/cyraeddiadau blaenorol
  • Profiad gwaith neu interniaeth (gan gynnwys ymweliadau gwaith dramor)
  • Aelodaeth o sefydliadau perthnasol e.e. Undebau Ffermio, CFfI Cymru, Ffermwyr Dyfodol Cymru

I storio a diweddaru eich holl gofnodion perthnasol ar y Storfa Sgiliau, mewngofnodwch i’ch Cyfrif BOSS drwy Sign on Cymru.