1 Mehefin 2020

 

Mae’r cyfnod hir o dywydd sych yn ddiweddar wedi golygu bod rhai o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio angen addasu eu trefniadau porthi a chynhyrchu silwair er mwyn ymdopi gyda lefelau lleithder isel 

Mae cyfraddau twf glaswellt wedi lleihau’n sylweddol mewn sawl rhan o Gymru dros y mis diwethaf ac yn ôl data prosiect GrassCheck GB ar gyfer ffermwyr llaeth yng Nghymru, roedd twf glaswellt ar ddiwedd Mai wedi lleihau 30% ers dechrau’r mis a fydd yn effeithio ar arferion pori a chynhyrchu silwair. Gyda rhagolygon am fwy o dywydd cynnes, gallai cynnyrch llaeth gael ei effeithio. Dyma rai enghreifftiau o sut mae rhai o’r safleoedd arddangos llaeth yn ceisio gweithredu strategaethau er mwyn ymdopi gyda sychder cynnar.

 

Mountjoy, Trefgarn, Sir Benfro

Mae William Hannah sy’n ffermio ar fferm Mountjoy wedi gorfod rheoli ei fuches o 370 o wartheg sy’n lloia yn y gwanwyn drwy fis Mai sych a fyddai fel arfer yn nodweddiadol o fis Gorffennaf. 

Ar hyn o bryd, mae faint o ddwysfwyd sy’n cael ei fwydo yn ystod y cyfnod sych wedi cynyddu 1.5kg i 4.5kgDM/pen/dydd ynghyd â silwair ychwanegol o 3kgDM/pen/dydd. Fel arfer, byddai cyfanswm galw dyddiol y gwartheg o 18kgDM y fuwch yn cael ei fodloni gan borfa a dwysfwyd yn y parlwr, ond mae chwarter o’r 90 o fyrnau a gynhyrchwyd oddi ar 30 erw ddechrau Mai eisoes wedi cael eu bwydo i’r fuches.

Yn ffodus, mae’r tir y mae’r teulu Hannah newydd ddechrau ei rentu sy’n cyffwrdd â’r fferm bresennol bellach wedi dod i mewn i’r cylchdro a bydd hwn yn cynnig porfa o ansawdd uchel ac yn ymestyn hyd y cylchred pori. Mae’r pridd yn sych hyd at 12 modfedd ar fferm Mountjoy ac mae rhai o’r caeau a gafodd eu hail hau yn y gwanwyn yn cael trafferth sefydlu. 

“Mae’n sychu yma ar hyn o bryd ac rydym ni wedi cynyddu faint o silwair sy’n cael ei fwydo er mwyn prynu rhywfaint o amser. Mae twf y glaswellt bellach i lawr i’r tridegau cynnar ac mae’r galw’n fwy na’r hyn sydd ar gael,” eglura Will. 

Er gwaetha’r tywydd sych, mae’r dwysfwyd ychwanegol wedi galluogi’r gwartheg sydd newydd ddod â lloi yn y gwanwyn i ymateb gyda chynhyrchiant llaeth uwch na’r blynyddoedd blaenorol.

“Mae’r gwartheg yn godro’n dda gyda chyfartaledd o 27 litr gyda dros 2kg o solidau llaeth fesul buwch bob dydd,” meddai Will.

Mae mynediad at ddŵr yn ystod cyfnodau sych iawn wedi bod yn broblem ar fferm Mountjoy yn y gorffennol. Yn ffodus, mae ail dwll turio ar fin cael ei osod, gan sicrhau cyflenwad dŵr digonol ar gyfer y fuches. 

“Achosodd y sychder yn 2018 broblemau gyda phwysedd a chyflenwad dŵr ar adegau. Gobeithio y bydd ail dwll turio’n helpu i leddfu hynny,” meddai Will.

Ffigwr 1. “Mae’r caeau a ail hadwyd yn dod yn eu blaen gan bwyll ond mae meillion coch yn edrych yn gryf yma.” (William Hannah, 24/05/20)

 

Ffigwr 2. “20 diwrnod o dyfiant gyda phen yr hadau’n ymddangos wrth i’r planhigion fod o dan straen o ganlyniad i’r tywydd sych. Gorchudd o 2,300 kgDM/ha.”  (William Hannah, 26/05/20)

 

“Edrych yn boeth heddiw. Dyma un o’n caeau olaf gyda gorchudd o 3,000 kgDM/ha felly wnawn ni ddim ei bori’n rhy dynn, fel bod rhywfaint ar ôl i ddiogelu’r cae gan ei fod yn brin o bridd ar dir uwch.” (William Hannah, 27/05/20)

 

“Wedi’i bori 56 diwrnod yn ôl. Mae wedi tyfu ychydig ond mae tipyn o goesynnau yn y gwaelod erbyn hyn.” (William Hannah, 27/05/20)

 

“Mae tipyn o goesynnau i’w gweld yn y gwndwn yma. Mae’n gymysgedd sy’n gwrthsefyll sychder yn well, ac mae’n cynnwys mwy o ronwellt a Festulolium. Mae’n blaguro’n gynt, ond mae’n cynhyrchu mwy o ddeunydd sych mewn tywydd fel hyn na’r gwndwn blaenorol.” (William Hannah, 27/05/20)

 

Erw Fawr, Caergybi, Ynys Môn

Mae Ceredig Evans, fferm Erw Fawr, wedi cael ychydig yn fwy o law na’r rhan fwyaf o ardaloedd o Gymru. Mae Ceredig wedi bod yn mesur glaswellt yn wythnosol ac yn mewnbynnu data i raglen AgriNet i wirio cyfradd twf yng nghyd-destun galw’r fuches.

Yn ffodus, mae cyfraddau twf yn dal i fod yn ddigonol, ond mae Ceredig yn torri glaswellt cyn cyflwyno’r gwartheg i’r borfa gan fod y gwndwn am flaguro’n gynt na’r arfer. Bydd hyn yn osgoi pori dethol ac yn sicrhau bod aildyfiant dilynol o ansawdd da. 

“Gallaf fod yn hyblyg lle bo angen gyda’r grŵp o wartheg llai cynhyrchiol sy’n pori, gan gynyddu gorchudd cyfartalog y fferm drwy adael i’r glaswellt gyrraedd y cam 3 deilen a rhu hwnt, a thorri cyn cyflwyno’r gwartheg neu sychu’r gwartheg yn gynt er mwyn lleihau’r galw,” meddai Ceredig.

 

Fferm Nantglas, Talog, Sir Gâr

Mae Iwan Francis yn rheoli buches o 200 o wartheg sy’n lloia mewn dau floc, sy’n cynhyrchu 30 litr/buwch/diwrnod ar gyfartaledd ar 3kgDM o ddwysfwyd a glaswellt, ac mae dechrau’r flwyddyn wedi bod yn heriol iddo, fel pob ffermwr, o ganlyniad i’r sychder yr ydym yn ei brofi ar hyn  o bryd.

Ar ôl troi gwartheg i’r borfa ychydig yn hwyrach na’r disgwyl yn dilyn gaeaf gwlyb iawn, roedd rheoli a defnyddio’r glaswellt yn ystod y tywydd sych yn llai o her nag yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd y gwanwyn sych wedi arwain at amodau da yn y cae ac roedd y gwartheg yn pori’r gwyndonnydd yn dda, meddai Nigel Howells, ymgynghorydd annibynnol sy’n gweithio gydag Iwan er mwyn gwneud gwell defnydd o’r borfa.

Roedd twf glaswellt ar 23 Mai yn 45kgDM/ha yn unig o’i gymharu â chynnydd mewn galw o 61kgDM/ha, sy’n gymharol isel o’i gymharu â’r twf o 67kgDM/ha a welwyd ym mis Mai 2019. 

Mae Iwan wedi cymryd camau i reoli’r sefyllfa.

“Rydym ni’n sychu 10 o’r gwartheg sy’n lloia yn yr hydref yn gynt o ganlyniad i’w cynhyrchiant isel, gyda’r nod o sychu 20 ychwanegol dros yr wythnosau nesaf, gan ddibynnu ar eu cyflwr corff a’u dyddiad lloia/cynhyrchiant,” meddai Iwan. 

Bydd hyn yn lleihau’r galw ar yr ardal bori i gyfateb â thwf y glaswellt a gyflawnwyd ar y fferm, eglurodd Nigel Howells. 

Mae Iwan hefyd wedi cynyddu lefelau porthiant 2kgDM a 1.5kgDM ar gyfer y gwartheg sy’n lloia yn y gwanwyn a’r hydref yn y dref honno, er mwyn cymryd lle’r glaswellt a lleihau’r galw ar yr ardal bori. Gobeithio y bydd y camau hyn yn arwain at:

  • Leihau’r galw ar yr ardal bori
  • Cydbwyso twf y glaswellt gyda’r galw
  • Cynnal gorchudd cyfartalog digonol ar y fferm
  • Osgoi bwydo porthiant arall
  • Cynnal perfformiad a ffrwythlondeb gwartheg

Glaswellt ar fferm Nantglas, 10/05/20

 

Nantglas, Mai 2020

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu