17 Medi 2020

 

Mae fferm fynydd yng Nghymru yn datgloi ei photensial ar gyfer cynhyrchu glaswelltir trwy weithredu ar ganlyniadau rhaglen flynyddol i brofi priddoedd.

Mae’r teulu Edwards yn cymryd camau i wella'r broses o reoli pridd a da byw ar fferm Hendre Ifan Goch, safle arddangos Cyswllt Ffermio yn Blackmill, ger Pen-y-bont ar Ogwr, i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Yn ystod eu blwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y rhaglen, maent wedi profi priddoedd ar y fferm 91 hectar sydd wedi’i lleoli mewn Ardal dan Anfantais Fawr.

Er y dangoswyd bod y lefelau carbon cyffredinol yn dda, mae lefelau carbon gweithredol yn isel.

Mae hyn yn dangos bod gweithgarwch biolegol pridd yn cael ei effeithio gan gywasgiad.

Pan nad yw dŵr yn gallu treiddio drwy’r pridd, mae’n sefyll o fewn yr ychydig fodfeddi uchaf, gan arafu twf glaswellt yn ystod cyfnodau sych gan nad yw’r gwreiddiau’n gallu cyrraedd lleithder yn ddyfnach.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'r priddoedd ar fferm Hendre Ifan Goch wedi cael eu hawyru gan ddefnyddio offer awyru mecanyddol; mae hwn yn creu tyllau mân yn y pridd i alluogi aer, dŵr a maetholion i gyrraedd gwreiddiau’r glaswellt.

Dywed Rhys Edwards, sy'n ffermio gyda'i dad, Russell, y bydd hyn yn lleihau cywasgiad ac yn helpu gwreiddiau i dyfu'n ddyfnach, gan alluogi’r borfa i dyfu’n gryfach ac yn fwy bywiog.

Mae calch wedi cael ei wasgaru er mwyn cyflymu gweithgaredd biolegol y pridd ac i ryddhau maetholion yn y pridd, meddai.

"Roedd gan un o'r caeau a brofwyd lefel pH o 5.8 ac fe'n cynghorwyd bod ganddo botensial i gyrraedd 6.7, ac mae hynny’n golygu cynhyrchiant nad ydym yn manteisio arno ar hyn o bryd,'' meddai Rhys.

“Roeddem ni’n brin o laswellt ar ddiwedd Mehefin, ac rwy’n gwybod bod nifer o ffermwyr wedi wynebu’r un sefyllfa oherwydd y tywydd sych. Ond gobeithio y bydd y fferm yn gallu perfformio’n well at y dyfodol mewn tywydd sych o ganlyniad i’r gwelliannau yr ydym yn eu gwneud ar hyn o bryd.” 

Mae calch wedi cael ei ychwanegu at y cae hwnnw ac eraill, ond mae Rhys yn ymwybodol na fydd y canlyniadau i’w gweld ar unwaith.

"Mae'n broses hir ond rydym yn symud tua'r cyfeiriad iawn,'' meddai.

Y targed yw sicrhau cynnydd o 1% mewn deunydd organig yn y pridd a lefelau carbon y pridd bob blwyddyn. Mae lefelau deunydd organig presennol ar fferm Hendre Ifan Goch yn amrywio o 10% – 14% o'r tri cae a samplwyd.

Bydd strategaethau rheoli glaswellt hefyd yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm a'i hôl troed carbon.  

Un strategaeth a roddwyd ar waith oedd i bori’r ddiadell o 400 o ddefaid miwl Aberfield, 200 o famogiaid Cymreig a 130 o ŵyn benyw ar system bori cylchdro.

Dywed Rhys mai ei nod yw gwneud y fferm yn niwtral o ran carbon. "Fel ffermwyr mae gennym gyfrifoldeb dros leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac mae angen i ni edrych ar y ffordd yr ydym yn ffermio yn y tymor hwy.

"Trwy weithio gyda Cyswllt Ffermio ac ystyried y darlun amgylcheddol ehangach, rydym ni’n hyderus bod modd i ni symud tua’r cyfeiriad cywir.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites