10 Tachwedd 2020
Bydd arbenigwr ar ymddygiad gwartheg yn helpu ffermwyr llaeth i ddysgu sut i ddarllen arwyddion corfforol eu gwartheg a defnyddio hynny i reoli’r fuches, yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio’r mis hwn.
Dywed y milfeddyg o'r Iseldiroedd, Joep Driessen, o gwmni CowSignals®, fod y ffermwyr sy’n perfformio orau yn deall gofynion eu gwartheg.
Trwy ddarllen arwyddion corff y fuwch, gellir cynyddu hirhoedledd a pherfformiad.
Yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio a gynhelir ar 19 Tachwedd, bydd Mr Driessen yn annog ffermwyr i fod yn ymwybodol o arwyddion corfforol eu gwartheg.
Gallai ymwybyddiaeth o’r arwyddion hyn a chanolbwyntio ar ofynion hanfodol o ran bwyd, dŵr, golau a lle gynyddu cynhyrchiant, o dair i bum llaethiad, ynghyd â lleihau costau meddai Mr Driessen.
Bydd y weminar yn gysylltiedig gyda diweddariad oddi ar fferm Erw Fawr, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Caergybi, lle mae prosiect ar waith ar hyn o bryd sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles gwartheg sydd newydd ddod â lloi.
Yn ôl Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio, bydd yr hyn a fydd yn cael ei drafod yn galluogi ffermwyr Cymru i ddeall y syniadau diweddaraf yn ymwneud â rheoli buchod llaeth.
“Bydd yn annog ffermwyr i edrych, meddwl a gweithredu yn seiliedig ar arwyddion y fuwch,” meddai.
“Bydd Joep yn egluro pam y dylai ffermwyr gwestiynu beth maen nhw’n ei weld, pam mae’n digwydd a beth mae’n ei olygu wrth arsylwi gwartheg.”
I gymryd rhan yn y weminar a gynhelir rhwng 19:30-20:30, mae angen i chi gofrestru eich diddordeb erbyn 15:00 ar y diwrnod. Cliciwch yma i gofrestru, neu e-bostiwch rhys.davies@menterabusnes.co.uk
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.