Gwellt yw'r deunydd gorwedd a ddefnyddir amlaf ar gyfer mamogiaid dan do, ond wrth i'w gost barhau i gynyddu'n sylweddol, a'i argaeledd leihau, mae ffermwyr yn troi at opsiynau gwahanol. Mae un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, Hendre Ifan Goch, wedi gosod lloriau slatiau yn ddiweddar fel dewis gwahanol i wellt.
Ymunwch â Cyswllt Ffermio, y ffermwr arddangos Rhys Edwards (Hendre Ifan Goch), yr ymgynghorydd bîff a defaid annibynnol Liz Genever a’r milfeddyg Tom Searle, o South Wales Farm Vets i drafod y canlynol;
- Y system wyna yn Hendre Ifan Goch, ac awgrymiadau da ar gyfer tymor ŵyna llwyddiannus.
- A yw lloriau slatiau yn opsiwn gwahanol ymarferol i wellt ar gyfer mamogiaid dan do?
- Canlyniadau'r treial yn cymharu 5 deunydd gorwedd gwahanol cyn ŵyna (gwellt haidd, gwellt gwenith, blawd llif, EnviroBed a lloriau slatiau).