Gwellt yw'r deunydd gorwedd a ddefnyddir amlaf ar gyfer mamogiaid dan do, ond wrth i'w gost barhau i gynyddu'n sylweddol, a'i argaeledd leihau, mae ffermwyr yn troi at opsiynau gwahanol. Mae un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, Hendre Ifan Goch, wedi gosod lloriau slatiau yn ddiweddar fel dewis gwahanol i wellt.

Ymunwch â Cyswllt Ffermio, y ffermwr arddangos Rhys Edwards (Hendre Ifan Goch), yr ymgynghorydd bîff a defaid annibynnol Liz Genever a’r milfeddyg Tom Searle, o South Wales Farm Vets i drafod y canlynol;

  • Y system wyna yn Hendre Ifan Goch, ac awgrymiadau da ar gyfer tymor ŵyna llwyddiannus.
  • A yw lloriau slatiau yn opsiwn gwahanol ymarferol i wellt ar gyfer mamogiaid dan do?
  • Canlyniadau'r treial yn cymharu 5 deunydd gorwedd gwahanol cyn ŵyna (gwellt haidd, gwellt gwenith, blawd llif, EnviroBed a lloriau slatiau).

Related Newyddion a Digwyddiadau

GWEMINAR: Adolygiad Prosiect Porfa Cymru 2022
Prosiect Porfa Cymru - Adolygiad o'r Tymor Pori 2022 {"preview
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Cynllun Troi’n Organig - 12/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae’r Cynllun Troi’n
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau a Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion - 05/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae Grantiau Bach –