28 Ionawr 2022

 

Fel rhan o raglen Fentora Cyswllt Ffermio, mae Delyth Fôn Owen ac Andrew Rees wedi ymuno’n ddiweddar â chyfeiriadur Mentoriaid sydd eisoes yn llawn. Mae’r rhaglen yn darparu 15 awr o arweiniad a chyngor rhad ac am ddim am amrywiaeth eang o bynciau i ffermwyr a choedwigwyr gan eu cyfoedion. Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae Delyth yn eiriolwraig angerddol dros gynllunio olyniaeth a chyfathrebu o fewn teuluoedd fferm, gan gyfuno’i sgiliau hi fel Cwnselydd Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain cymwysedig a chynllunydd olyniaeth. 
“Teimlaf fod gennyf y rhinweddau sydd eu hangen i gefnogi ffermwyr a’u teuluoedd, a buaswn wrth fy modd yn cael y cyfle i gefnogi ac arwain teuluoedd fferm drwy gynllunio olyniaeth,” dywedodd.

Mae Andrew a’i deulu’n ffermio 320 o wartheg Friesian Prydeinig sy’n lloia yn y gwanwyn, yn ogystal â gwartheg i’w dilyn a theirw magu, ar 400 erw, yn ogystal â 75 erw ar drefniant tymor byr ar gyfer gwneud silwair. Fel un sy’n ymddiddori yn iechyd pridd, mae Andrew wedi bod yn canolbwyntio ar ddulliau sy’n amddiffyn y pridd, yn cynyddu bioleg y pridd ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar fewnbynnau allanol megis gwrtaith cemegol. 

“Gallaf weld cynifer o fanteision o ddeall a meithrin pridd ar eich fferm a’r sgil-effeithiau o safbwynt cynhyrchedd, iechyd anifeiliaid ac elw, a hoffwn helpu ac annog eraill i fod yn ddigon hyderus i gyflawni’r newidiadau yma ar eu ffermydd eu hunain.” 

Ers cychwyn y rhaglen yn 2015, mae wedi sicrhau 4918 awr anhygoel o gyngor rhad ac am ddim i ffermwyr, gan helpu 527 o unigolion a busnesau. 

Yn ôl Heledd Dancer, Rheolwr Datblygu a Mentora Cyswllt Ffermio, “Rydym yn teimlo’n hynod gyffrous i allu croesawu Andrew a Delyth fel aelodau o’r Tîm Mentora. Bellach mae gennym 65 mentor o bob cwr o Gymru, yn cynnig cyngor ar amrywiaeth eang o bynciau.”  

“Bydd Andrew’n cynnig cyngor am iechyd pridd a Delyth yn arbenigo mewn hwyluso olyniaeth. Weithiau, daw’r help gorau gan rywun sydd wedi bod drwy’r felin eu hunain, ac felly’n fwy na hapus i rannu eu profiadau.” 

Er mwyn manteisio ar y rhaglen Fentora, cysylltwch â Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 neu ar ewch i’n gwefan. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu