Proffil ffermwr profiadol: Andrew Rees
Enw: Andrew Rees
Enw a lleoliad y fferm: Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd
Sector: Llaeth
Cyfradd stocio (gwartheg/ha neu kgLW/ha): 3.5 buwch/ha (llwyfan llaeth)
Dwysfwyd a ddefnyddir y pen (Llaeth): 1200 kg
KgMS neu Litrau/y flwyddyn (Llaeth): 490 kg o MS/ha
Prif fath o bridd: Lôm clai/cleibridd
Ffrwythlondeb y pridd: Mynegeion safonol fel arfer yn 2 a 3. Gweithio ar gydbwyso sylfaen dirlawnder, fel arfer yn cynyddu calsiwm cyfnewidiadwy.
Cyfraddau gwasgaru nitrogen ar hyn o bryd - a oes gennych gynlluniau i leihau hyn, a sut? Cyfanswm o 85kg o N/ha wedi’i wasgaru yn 2021 (wedi gostwng o 220kg yn 2019).
Prif fath o borfa (yr ardal sy’n cael ei mesur): Rhygwellt/meillion gwyn yn bennaf, a thua 10% o wyndonnydd amlrywogaeth.
Tunelli o ddeunydd sych (tDM)/ha a dyfwyd yn 2021: 10
Y nifer o gylchoedd pori a gyflawnwyd fesul padog/y flwyddyn: 8
Sut ydych chi wedi rhannu’r fferm? Nifer a maint y padogau? 40 o badogau ar y prif lwyfan.
Oes gennych chi ddiwrnod penodol o’r wythnos pan fyddwch chi’n cerdded o amgylch y cylch pori ac yn mesur tyfiant y borfa? Fel arfer, dydd Llun.
Pam ydych chi’n meddwl bod mesur glaswellt yn hanfodol i’ch rheolaeth? Cydnabod argaeledd porthiant o flaen y fuches, a gwneud ymyriadau amserol lle bo angen i gynnal porfa o safon.
Pa egwyddorion rheoli pori ydych chi’n cadw atynt? Gwarchod aildyfiant ac osgoi gorbori.
Sut ydych chi’n delio ag amodau tywydd eithafol, megis sychder neu amodau pori gwlyb? Y defnydd o gyfleusterau cadw gwartheg a phori’r gwartheg am gyfnod cyfyngedig; byddaf yn bwydo silwair yn y padog yn ystod tywydd sych.