Proffil ffermwr profiadol: Andrew Rees

Enw: Andrew Rees

Enw a lleoliad y fferm: Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd

Sector: Llaeth

Cyfradd stocio (gwartheg/ha neu kgLW/ha): 3.5 buwch/ha (llwyfan llaeth)

Dwysfwyd a ddefnyddir y pen (Llaeth): 1200 kg

KgMS neu Litrau/y flwyddyn (Llaeth): 490 kg o MS/ha

Prif fath o bridd: Lôm clai/cleibridd

Ffrwythlondeb y pridd: Mynegeion safonol fel arfer yn 2 a 3. Gweithio ar gydbwyso sylfaen dirlawnder, fel arfer yn cynyddu calsiwm cyfnewidiadwy.

Cyfraddau gwasgaru nitrogen ar hyn o bryd - a oes gennych gynlluniau i leihau hyn, a sut? Cyfanswm o 85kg o N/ha wedi’i wasgaru yn 2021 (wedi gostwng o 220kg yn 2019).

Prif fath o borfa (yr ardal sy’n cael ei mesur): Rhygwellt/meillion gwyn yn bennaf, a thua 10% o wyndonnydd amlrywogaeth.

Tunelli o ddeunydd sych (tDM)/ha a dyfwyd yn 2021: 10

Y nifer o gylchoedd pori a gyflawnwyd fesul padog/y flwyddyn: 8

Sut ydych chi wedi rhannu’r fferm? Nifer a maint y padogau? 40 o badogau ar y prif lwyfan.

Oes gennych chi ddiwrnod penodol o’r wythnos pan fyddwch chi’n cerdded o amgylch y cylch pori ac yn mesur tyfiant y borfa? Fel arfer, dydd Llun.

Pam ydych chi’n meddwl bod mesur glaswellt yn hanfodol i’ch rheolaeth? Cydnabod argaeledd porthiant o flaen y fuches, a gwneud ymyriadau amserol lle bo angen i gynnal porfa o safon.
 
Pa egwyddorion rheoli pori ydych chi’n cadw atynt? Gwarchod aildyfiant ac osgoi gorbori. 

Sut ydych chi’n delio ag amodau tywydd eithafol, megis sychder neu amodau pori gwlyb? Y defnydd o gyfleusterau cadw gwartheg a phori’r gwartheg am gyfnod cyfyngedig; byddaf yn bwydo silwair yn y padog yn ystod tywydd sych.