11 Awst 2022

 

Mae creu cyllideb bwyd anifeiliaid wedi caniatáu i fferm da byw ym Mhowys wneud penderfyniadau ynghylch porthiant gaeaf yn gynnar, cyn y bydd unrhyw ddiffyg posibl yn digwydd, yn ystod blwyddyn dyfu heriol i ffermwyr ar draws Cymru.

Mae'r broses gyfrifo syml, sy'n seiliedig ar nifer yr anifeiliaid, eu pwysau a'u cymeriant bwyd rhagfynegol, yn dangos bod gan Fferm Cefngwilgy Fawr ddigon o fwyd anifeiliaid ar gyfer ei gwartheg a'i defaid drwy gydol y gaeaf, heb iddynt orfod gwario arian ar brynu porthiant neu gynhyrchu silwair ychwanegol.

Caiff y safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Llanidloes ei ffermio gan Edward a Kate Jones, a thad Edward, Gareth.

Yn eu rôl gyda Cyswllt Ffermio, maent wedi bod yn gweithio gyda Chris Duller, arbenigwr glaswelltir annibynnol, er mwyn ystyried y cyfleoedd i leihau costau a gwella perfformiad yr anifeiliaid drwy ddefnyddio’r hyn y maent yn ei dyfu ar y fferm.

Yn ystod diwrnod agored a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Fferm Cefngwilgy Fawr, pwysleisiodd Mr Duller bwysigrwydd cyllideb bwyd anifeiliaid i'w fferm, ac i bob fferm.  Yn ystod blwyddyn pan fu'r amodau tyfu yn anodd, dywedodd fod cyllideb porthiant yn caniatáu iddynt wneud penderfyniadau yn gynnar ynghylch diffygion posibl.

“Yn ystod y flwyddyn hon sydd wedi bod mor heriol, dyma'r amser i baratoi cyllideb bwyd anifeiliaid sylfaenol,” mynnodd.

Yn Fferm Cefngwilgy Fawr, mae'r gyllideb bwyd anifeiliaid yn dangos bod gan y fferm 264,000kg o ddeunydd sych (DM) yn ei stoc yn barod ar gyfer y gaeaf, sy'n cynnwys 680 o fyrnau silwair, 220 o fyrnau gwair, 100 tunnell (t) o silwair claddfa a chwe erw o erfin.

Bydd angen y bwyd hwnnw ar gyfer: 
•    55 o wartheg am 180 diwrnod pan fyddant yn cael eu cadw i mewn (y mae gofyn i bob un ohonynt gael 12cilogram/dydd o fwyd);
•    25 o anifeiliaid diddyfnu y mae gofyn iddynt gael 6 cilogram/pen/dydd cyn iddynt gael eu gwerthu ym mis Ionawr;
•    15 o anifeiliaid diddyfnu y mae gofyn iddynt gael 8kg/pen/dydd; ac 
•    850 o famogiaid, y mae eu cymeriant dyddiol yn 1kg.

Mae Mr Duller yn cyfrifo mai eu gofyniad cyfunol am fwyd yw 254,000kgDM, o ystyried maint, sgôr cyflwr a dyddiad lletya'r stoc.

Cynghorodd ffermwyr i ystyried deunydd a gollir, ac os ydynt yn bwriadu rhoi dwysfwyd, y dylid cynnwys hynny yn y gyllideb – mae 1 cilogram o ddwysfwyd yn cyfateb ag 1.4kgDM silwair, gan ddibynnu ar yr ansawdd.

“O'r holl flynyddoedd i brofi silwair yn gynnar, hon yw'r flwyddyn i wneud hynny,” dywedodd Mr Duller.

“Mae silwair yn debygol o fod yn sychach nag y mae fel arfer, a fydd yn golygu y bydd yn cynnwys mwy o Ddeunydd Sych (DM), ond yr anfantais yn hynny o beth yw y bydd anifeiliaid yn bwyta mwy ohono.’’

Cynghorodd ffermwyr i gofio bod pwysau byrnau silwair yn amrywio'n fawr, hefyd, o 450-650kg, felly argymhellir y dylid eu pwyso pan fo modd.

Rhaid ystyried deunydd a gollir ,hefyd. Mae Mr Duller yn dweud bod ymchwil yn dangos y gall hwn fod mor uchel â 25% mewn silwair claddfa, o ganlyniad i eplesu, bwydo allan a cholli caeau, ac yn 5-10% mewn byrnau; os bydd yr amodau yn wlyb, mae'n hawdd colli 30% o bori cnwd porthiant.

Os bydd cyllideb bwyd anifeiliaid yn amlygu diffyg, trwy wneud gwaith cynllunio cynnar, gall ffermwyr wneud penderfyniadau ynghylch sut i ddelio â'r diffyg hwnnw, megis hau cnydau porthiant neu ail-hadu porfa, gwneud toriadau silwair ychwanegol, gaeafu oddi ar y fferm neu brynu bwyd i mewn.

“Mae cynhyrchu silwair ar ffurf byrnau yn costio tua 20c fesul kg o Ddeunydd Sych (DM), o'i gymharu â phori porfa sy'n costio 7-8c/kg/DM, felly os bydd y gyllideb bwyd anifeiliaid yn dangos nad oes angen mwy o silwair arnoch, nid oes angen i chi wario'r arian hwnnw,” dywedodd Mr Duller.

Cynghorodd fod amser o hyd i hau maip sofl neu ail-hadu gyda gwyndwn Eidalaidd, er mwyn byrhau'r cyfnod pan fydd y gwartheg dan do.

Yn ogystal ag ailgyflwyno erfin yn y cylchdro, mae’r teulu Jones wedi bod yn cynyddu swm y protein y maent yn ei gynhyrchu hefyd, trwy dyfu 2.4 hectar (ha) o feillion coch a hefyd, hau meillion gwyn trwy 'bwytho' yn eu gwyndwn porfa.

“Mae'r ŵyn wedi perfformio'n dda ar y meillion, ac mae wedi arbed arian i ni ar wrtaith,” dywedodd Edward.

Pesgir yr holl ŵyn ar borthiant (un o ofynion eu contract cyflenwi), gan sicrhau pwysau marw o 20.2kg ar gyfartaledd ar gyfraddau E ac U yn bennaf.

Trwy eu gwaith gyda Cyswllt Ffermio, maent wedi bod yn ymchwilio i'r gyfradd ymateb gan wahanol gyfraddau gosod nitrogen (N), hefyd – 30kg, 50kg a 70kg/ha a osodwyd mewn un gwrteithiad yn hwyr ym mis Ebrill.

Roedd y plot lle y gosodwyd 30kg wedi cynhyrchu cyfradd ymateb o 20kgDM am bob 1kg o N a osodwyd, ond roedd yr holl dyfiant ychwanegol i'w weld yn y pedair wythnos gyntaf, dywedodd Mr Duller. 

Cyfatebwyd y gyfradd ymateb gan y gyfradd 50hg, ond yn y plot hwnnw, roedd tyfiant ychwanegol y borfa wedi parhau yn ystod y mis canlynol. Nid oedd y gyfradd uchel o 70kg wedi sicrhau unrhyw fudd a oedd yn fwy na'r gyfradd 50kg, naill ai o ran pwysau'r cnwd porfa nac amser ymateb hirach.

Dywedodd Mr Duller mai'r cyngor fu i rannu cyfnodau gosod gwrtaith yn hanesyddol, er mwyn cynnig ymateb cyson a gwella effeithlonrwydd. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn yr Alban yn ddiweddar wedi canfod nad oes unrhyw fudd mewn rhannu gwrteithiadau.

“Mae'r treial bach hwn yn Fferm Cefngwilgy wedi adlewyrchu'r canfyddiadau ymchwil hynny, gan arbed amser a diesel trwy roi un gwrteithiad yn hytrach na dau – a sicrhau effeithlonrwydd tebyg iawn o ran y defnydd o nitrogen o'r cyfraddau 30kg a 50kg,” dywedodd.

Mae Lisa Roberts, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, wedi bod yn goruchwylio'r gwaith prosiect ar Fferm Cefngwilgy Fawr. Dywedodd fod y camau a gymerwyd gan y teulu Jones wedi dangos sut y gall mesurau syml wella effeithlonrwydd glaswelltir a gwella cynaliadwyedd fferm. 

“Gyda phris gwrtaith yn uwch nag y mae wedi bod erioed o'r blaen, mae'n bwysig ystyried dewisiadau amgen megis cynnwys mwy o feillion mewn gwyndwn er mwyn gosod nitrogen,’’ ychwanegodd.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Wales, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites