Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Ffermwyr Geifr
Ariannwyd drwy’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a’r Gwasanaeth Cynghori fel rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020
Ffermwyr Geifr
Swydd Efrog
8 - 9 Mehefin 2022
1 Cefndir
Buom yn ymweld â Yorkshire Dairy Goats a fferm St Helen’s Farm ar y diwrnod cyntaf, ac yna fe wnaethom ni fynychu cynhadledd Cymdeithas Filfeddygol Geifr (Goat Veterinary Society) ar yr ail ddiwrnod.
1.1 Mynychwyr
Diane Bayliss
Andrew Goodwin
Gary Yeomans
Jess Yeomans
2 Amserlen
2.1 Diwrnod cyntaf
Buom yn ymweld â fferm St Helen’s Farm a Yorkshire Dairy Goats.
2.2 Ail ddiwrnod
Mynychu cynhadledd Cymdeithas Filfeddygol Geifr.
09:30 – 09:50 |
Cyrraedd, cofrestru a phaned |
09:50 – 10:15 |
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chroeso gan y Llywydd / Diweddariad ar Lwybr Iechyd Lles Anifeiliaid - Nick Perkins, Llywydd Cymdeithas Filfeddygol Geifr |
Cadeirydd |
Sesiwn y bore: Heidi Svensgaard, Howden |
10:15 – 10:45 |
Newidiadau mewn arferion rheolaeth i leihau’r angen i ddosio rhag parasitiaid mewn geifr a gynhyrchir ar gyfer cig – Kate Hovers, EIP yng Nghymru |
10:45 – 11:15 |
Agweddau ecolegol yn ymwneud â ffermio geifr – Breuddwyd neu fyd newydd dewr – Iain Richards, Ecolegydd Milfeddygol; Kendal Cumbria |
11:15 – 11:45 |
Lluniaeth, te a choffi |
Cadeirydd |
Sesiwn cyn cinio: Yasmin Cooper, Macclesfield |
11:45 – 12:45 |
Annormaleddau Datblygu mewn Geifr – a yw Schmallenburg ar y gorwel? Ana Gomez / Amanda Carson, APHA |
12:45 – 13:15 |
“Sylw i salmonela” – astudiaeth achos gan Alan Murphy, APHA |
13:15 – 14:15 |
Cinio |
Cadeirydd |
Sesiwn y prynhawn: Agnes Winter, Efrog |
14:15 – 15:15 |
Cloffni mewn Geifr – cyflyrau cyffredin, achosion, rheoli a thrin Sesiwn drafod – byddwch yn barod i rannu eich profiadau – Jennifer Duncan, Prifysgol Lerpwl |
15:15 – 16:00 |
A yw geifr yn bwyta unrhyw beth? Achosion o wenwyno o’r cae – Lizzie Dunnett, APHA |
16:00 |
Crynodeb a chloi – Nick Perkins, Llywydd Cymdeithas Filfeddygol Geifr |
3 Camau nesaf
Gwelsom y fferm eifr fwyaf yn y DU a chawsom ddysgu am amrywiaeth o’r technolegau newydd a ddefnyddir ganddynt. Byddwn yn ymweld â ffermydd geifr mawr eraill y flwyddyn nesaf er mwyn dysgu mwy. Cawsom hefyd glywed gan ystod o siaradwyr yn y gynhadledd a dysgu am leihau effaith amgylcheddol ffermio geifr, gan gynnal safonau cynhyrchiant a llesiant ar yr un pryd.
Yr hyn a oedd fwyaf defnyddiol i ni oedd yr eitemau’n ymwneud â geifr godro sy’n cael eu cadw dan do drwy’r flwyddyn. Mae cloffni mewn geifr yn broblem benodol yr ydym ni’n ei weld sy’n gallu effeithio ar eifr, ac mae’n ddefnyddiol gallu trafod gydag eraill a rhannu profiadau, gan eich bod bob amser yn dysgu rhywbeth newydd. Clywsom gan eraill eu bod yn trimio traed bob 3-4 mis gan ddefnyddio arbenigwyr. Byddwn ystyried hynny yn dilyn yr ymweliad, a chawsom enw person i gysylltu ag ef.
Yr uchafbwynt mwyaf i mi oedd y daith o amgylch y fferm y diwrnod cynt ar fferm St Helen’s Farm. Roedd gennym ddiddordeb penodol yn y cyfleusterau magu mynnod geifr a’r agwedd fwydo. Rydw i wedi atodi lluniau o’r daith o amgylch y fferm ac o’r pethau a oedd o ddiddordeb penodol. Roedd yr awyru yn y siediau magu yn ardderchog, ac yn rhywbeth y byddem yn ymchwilio dros y 6-12 mis nesaf, gan fod niwmonia yn broblem benodol wrth fagu mynnod geifr. Roedd y deunydd gorwedd a ddefnyddiwyd hefyd yn wahanol iawn, ac o bosibl yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried ar gyfer tymhorau’r dyfodol.
Unwaith eto, roedd y cyfle i siarad gyda phobl eraill sy’n gwneud yr un fath â ni’r un mor ddefnyddiol â’r gynhadledd ei hun. Rydw i hefyd wedi dysgu am wahanol ddulliau bwydo, protocolau diddyfnu a’u rhaglen frechu yn ystod yr ymweliad.
Hefyd ar y fferm, roedd offer bwydo dogn ar gylchdro a oedd yn rhoi swm penodol o fwyd i bob gafr yn seiliedig ar gynnyrch llaeth, pwysau ac oedran. Roedd yn ddiddorol iawn, ond nid yw’n rhywbeth y gallwn ystyried buddsoddi ynddo ar hyn o bryd. Er hynny, gallai fod yn rhywbeth i’w ystyried ar gyfer y dyfodol.