30 Tachwedd 2022

 

Mae penderfyniad ffermwr ifanc i wneud ei fferm deuluol yn hunangynhaliol a chael gwared ar ei ddibyniaeth ar daliadau cymhorthdal uniongyrchol wedi bod yn gatalydd i fenter arallgyfeirio garddwriaeth hynod lwyddiannus.

Ymunodd Ed Swan â'i rieni, Clive a Gail, ar Fferm y Ffrith, ger pentref Treuddyn, Yr Wyddgrug, ar ôl astudio amaethyddiaeth.

Fe wnaeth hi'n nod i gynyddu hunangynhaliaeth y busnes ymhellach - roedd gan y teulu Swan eisoes siop fferm sydd wedi hen ennill ei phlwyf ac sy’n ffynnu.

Gyda sylfaen tir o 200 erw ac angen i dri pherson wneud bywoliaeth ohono, roedd y syniad o arallgyfeirio pellach yn galw.

"Doedden ni ddim eisiau mynd lawr llwybr economïau graddfa, mynd ar ôl tir gwerth uchel, ond i wneud yr hyn oedd gennym eisoes i ennill mwy,'' esbonia Ed.

Gyda hynny mewn golwg, cofrestrodd fel fferm ffocws Cyswllt Ffermio, gan archwilio opsiynau ar gyfer adeiladu profiad cyrchfan fferm o amgylch adnoddau presennol, gyda chefnogaeth swyddog technegol Cyswllt Ffermio, Debbie Handley.

Roedd cynhwysiant anfwriadol Ed o ganran uchel o hadau blodau'r haul mewn cymysgedd llysieuol ar gyfer gwartheg pori yn 2021 eisoes wedi sbarduno un syniad ar gyfer cyflawni hynny.

"Roedd yn gamgymeriad hapus,'' meddai Ed. "Roedd Debbie yn argymell ein bod ni'n edrych ar fenter casglu eich hun gan ei fod yn clymu mewn gyda phopeth arall sydd gennym ni yma.''

Plannwyd tair erw gyda blodau haul ac yn 2022, gwerthwyd 2,500 o flodau.

Roedd y fenter honno'n llenwi gostyngiad mewn busnes yn y siop fferm dros yr haf - mae llawer o'u cwsmeriaid rheolaidd i ffwrdd yn yr haf felly gall gwerthiant fod yn is.

I gryfhau incwm ddiwedd yr hydref, pan all gwerthiant hefyd leihau cyn cyfnod prysur y Nadolig, roedd y fferm hefyd mewn sefyllfa berffaith i gynnig 'casglu eich pwmpenni eich hun' ar gyfer Calan Gaeaf.

Trwy ei waith safle ffocws, cefnogwyd Ed gan yr arbenigwr garddwriaeth ADAS, Chris Creed.

"Ni aeth unrhyw gwestiynau heb eu hateb gan Chris na gan Debbie,'' meddai. "Roedd eu cael nhw'n dod mewn i adolygu'r prosiect wedi cadw trefn arnaf i, doedden nhw ddim yn swil i ddweud wrtha i os o'n i'n gwneud rhywbeth o'i le ac roedd hynny'n beth da!''

Cafodd ardal o dir islaw'r siop, oedd gynt yn dir diffaith, ei ddraenio a'i glustnodi fel yr ardal bwmpenni.

Prynodd Ed 4,000 o hadau pwmpenni a chomisiynodd feithrinfa leol i'w tyfu ymlaen i blygiau - cyfanswm y gost ar gyfer y ddau oedd £700.

"Rydyn ni 700 troedfedd uwchben lefel y môr ar glai trwm, doeddwn i ddim yn credu bod siawns da o hau'r hedyn yn uniongyrchol,'' meddai.

Esgorodd y dull hwnnw ar gyfradd llwyddiant o 90% ar ôl plannu allan.

Fe wnaeth potash a roddwyd ar 200kg/erw gostio £400 a chafodd £200 ei wario ar ffwngleiddiad i fynd i'r afael â llwydni blodiog a achoswyd gan dywydd poeth yr haf.

Fe wnaeth y busnes fuddsoddi £200 mewn fflyd o 14 berfa i gwsmeriaid gasglu eu pwmpenni.

Cymerodd Ed reolaeth o reoli’r chwyn. "Fe wnes i hynny gyda'r nos gan amlaf, doedd dim angen i ni gael help ychwanegol i mewn ar gyfer hynny felly doedd dim cost go iawn iddo.''

Pan oedd y cnwd yn barod i'w bigo, daeth torfeydd o gwsmeriaid, gan dalu o £2 - £8 am bwmpen, gyda nifer yn prynu sawl un.

Wrth benderfynu ar y pwynt pris, tarodd Ed gydbwysedd rhwng bod yn gystadleuol a gwneud elw. "Fel ffermwyr, rwy'n credu ein bod yn aml yn cael trafferth cydnabod gwerth yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu,'' mae'n cyfaddef.

Mae rheoli traffig - a phobl - yn ystyriaeth arall y bydd yn bwrw ymlaen â hi yn ei gynlluniau ar gyfer y fenter yn 2023.

"Mae’r rheini sy’n dod i gasglu pwmpenni a blodau haul yn aros yn hir,'' meddai. "Efallai y bydd cwsmeriaid ein siop fferm yn parcio am 15 munud ond, pan ddaw pobl i gasglu cynnyrch, gallant fod yma am ddwy awr. Roedd y maes parcio yn llawn drwy'r amser.''

Mae'n bwriadu ymestyn cyfleusterau parcio ceir a gall hefyd agor caffi yn y dyfodol, fel arallgyfeirio pellach.

Mae'r incwm o'r busnes casglu eich hun wedi ychwanegu at broffidioldeb y fferm, ac mae hynny'n rhoi hyder i Ed wrth iddo baratoi i’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) ddirwyn i ben.

Er bod y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) wedi'i bwysoli'n drwm tuag at nwyddau amgylcheddol, mae'n credu na ddylai ffermwyr fod angen cymhelliant ariannol i weithio gyda'r amgylchedd.

O'r mesurau niferus sydd ganddo ar waith i gefnogi bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, un yw gadael ei gnwd blodyn haul yn y fan a’r lle dros y gaeaf, fel porthiant i adar.

"Ein hamgylchedd ni gymaint ag unrhyw un yw e, dw i ddim yn meddwl y dylen ni ddisgwyl cael ein talu i edrych ar ei ôl. Ni ddylai fod yr unig reswm pam ein bod yn gwneud cynnydd,'' meddai Ed.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan
Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter