Ffrith Farm, Treuddyn, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Prosiect Safle ffocws: Adeiladu profiad cyrchfan fferm o amgylch adnoddau presennol

Amcanion y Prosiect:

Bydd y prosiect yn ystyried defnyddio adnoddau presennol, datblygu’r tir ger y siop, a sefydlu mentrau newydd yn unol â gofynion llafur y fferm. Mae tyfu blodau haul a phwmpenni yn gofyn am reolaeth ofalus i gynhyrchu a chlirio’r cnwd o fewn cyfnod byr iawn. Fodd bynnag, gellir eu rheoli’n hawdd ochr yn ochr â gweithgareddau ffermio arferol presennol, ac yn yr achos hwn, bydd angen mewnbwn gwerthiannau gweithredol cyfyngedig oherwydd bod y siop ar y safle.

Bydd y prosiect yn:

  • Archwilio’r dewis o fathau o flodau haul a phwmpenni, gan ystyried y gofynion o ran lliw a maint ar gyfer lleoliad ‘casglu eich hun’
  • Datblygu ardaloedd o amgylch y siop ar gyfer y fenter casglu pwmpenni a blodau haul eich hun.
  • Canolbwyntio ar reoli chwyn a darparu’r cydbwysedd maethol cywir  ar gyfer y cnydau, gan gofnodi unrhyw broblemau â chlefydau. 
  • Ystyried sut i gynnwys bioamrywiaeth ychwanegol yn y gweithgareddau ffermio presennol, er enghraifft, annog mwy o fywyd gwyllt a pheillwyr, defnyddio llai o gemegau.
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned leol trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau/cysylltiadau presennol, megis ysgolion, grwpiau cymunedol a grwpiau sy’n delio â’r cyhoedd.
  • Darparu deunydd addysgol i helpu i hysbysu’r cyhoedd am ffermio prif ffrwd a manteision anifeiliaid i ffrwythlondeb pridd a rheolaeth fferm gyfannol.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif
Fferm Plas
Arwyn Jones Fferm Plas, Llandegfan, Ynys Môn Prif Amcanion
Fferm Cilwrgi
Fferm Cilwrgi, HMP Prescoed, Brynbuga Prosiect Safle Ffocws