Adroddiad Terfynol Fferm Ffrith: Creu profiad cyrchfan fferm yn seiliedig ar adnoddau presennol
Teitl y prosiect: Creu profiad cyrchfan fferm yn seiliedig ar adnoddau presennol
Cyflwyniad
Mae Ed Swan wedi’i fagu ar fferm y teulu, sy’n fferm fynydd draddodiadol ym mhentref Treuddyn, ger yr Wyddgrug yng Ngogledd Cymru. Mae’r teulu Swan wedi bod yn ffermio yn Fferm Ffrith ers 1980, ac maen nhw’n cynhyrchu cig eidion a phorc cartref eu hunain i’w gwerthu o’u siop fferm ar y safle.
Maen nhw’n cadw tua 120 o wartheg bîff ar y fferm: Hereford, Aberdeen Angus, Glas Prydeinig, Simmental, Charolais, Gwartheg Duon Cymreig, Limousin a Byrgorn, a thros 100 o foch Cymreig pedigri, sydd i gyd yn rhydd i grwydro ar borfa a choetiroedd y fferm. Mae ganddynt hefyd ieir sy’n cyflenwi wyau i’r siop.
Mae cnydau âr o wenith, barlys, silwair, gwair, cêl a maip yn cael eu tyfu ar y fferm i fwydo’r da byw. Caiff y rhain eu cynaeafu rhwng mis Mehefin a mis Hydref ac maen nhw’n cyflenwi’r holl borthiant sydd ei angen arnynt ar gyfer y 12 mis nesaf.
Mae Llwybr Fferm yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gerdded o amgylch y fferm, gan gynnig golygfeydd rhyfeddol a chyfleoedd i weld anifeiliaid yn pori yn eu caeau, y ffermwyr wrth eu gwaith, y gwahanol fathau o gnydau a bywyd gwyllt anhygoel. Mae’r prosiect yn bwriadu adeiladu ar y rhan hon o’r fferm, gan ddatblygu’r profiad cyrchfan fferm drwy dyfu blodau haul a phwmpenni, ehangu ar y cyfleoedd i’r cyhoedd ymweld â’r fferm, dod ag incwm ychwanegol i mewn, creu mwy o gyswllt â’r gymuned leol a chynnwys bioamrywiaeth yng ngweithgareddau’r fferm o ddydd i ddydd.
Mae mentrau ‘casglu eich hun’ - pwmpenni a blodau haul - wedi dod yn hynod o boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers y pandemig, gyda phobl yn awyddus i fanteisio ar brofiadau a gweithgareddau awyr agored.
Amcanion
Ystyriodd y prosiect sut i wneud y gorau o'r adnoddau oedd ar gael, gan ddefnyddio tir wrth ymyl y siop fferm nad oedd yn cael ei ddefnyddio, a'i deilwra i gyd-fynd â gofynion llafur presennol y fferm. I dyfu blodau haul a phwmpenni, mae angen eu rheoli’n ofalus i lwyddo i gynhyrchu a gwerthu’r cnwd yn ystod y cyfnod cynaeafu byr. Fodd bynnag, gellir rheoli’r cnydau yn rhwydd ochr yn ochr â gweithgareddau arferol presennol y fferm, ac yn yr achos hwn, bydd angen ychydig bach o lafur ychwanegol oherwydd bod y siop ar y safle.
Y prif nodau oedd cael gwybodaeth ynghylch:
- Hyfywedd ariannol yr holl fentrau – llwybr fferm, pwmpenni, blodau haul.
- Mewnbynnau amser/llafur a chostau (nifer yr oriau a weithir, sut mae’n effeithio ar neu’n ategu gweithgareddau ffermio presennol, cost y planhigion, yr hadau, cemegau, gwrtaith, offer, ayyb) o’u cymharu ag incwm ychwanegol
- Ymgysylltu â’r cyhoedd/cymuned
- Unrhyw effaith yn gysylltiedig â chynnydd mewn bioamrywiaeth
Yr hyn a wnaed
Mae'r safle ar ffordd yr A5104 o Gaer i Gorwen, wrth ymyl y siop fferm bresennol ac mae ychydig o le parcio ar gael i gwsmeriaid. Y parsel o dir 1 hectar (ha) a ddewiswyd ar gyfer y pwmpenni oedd tir gwastraff cleiog, llawn dwr oedd wedi gordyfu, ond a oedd o fewn golwg y rhai oedd yn ymweld â siop y fferm, felly roedd yn lleoliad amlwg i’w ddatblygu. Plannwyd blodau'r haul ar ardal arall o dros 1ha y tu ôl i'r siop ar ben y bryn, ac roedd yn edrych fel pe bai llond cae o flodau.
Ym mis Mawrth 2022, dechreuwyd ar y gwaith o greu’r fynedfa, gyda ffordd galed yn cael ei hychwanegu ar y cae pwmpenni o'r siop bresennol a'r lle parcio. Cafodd y tir ei wastatau ac ychwanegwyd 500m o ddraeniau tir bob 10m i ddraenio'r ardaloedd dyfrlawn. Torrwyd gwrychoedd oedd wedi gordyfu ynghyd ag unrhyw brysgwydd oedd yn y cae.
Ffigwr 1. Gwaith draenio Fferm Ffrith Mawrth 2022
Cafodd ardal y pwmpenni ei haredig a'i throi. Defnyddiwyd og (spring tine) i gael gwared ar fwy o’r chwyn a rhoddwyd ystyriaeth i ddefnyddio'r dull traddodiadol (stale-seedbed) i gael gwared ar y chwyn ystyfnig.
Cymerwyd samplau o’r pridd ac nid oedd lefelau pH a maetholion yn peri pryder. Felly, ychwanegwyd gwrtaith cyffredinol 40:20:20 i gynnal lefelau maethol.
Dadansoddiad |
Canlyniad |
Canllaw |
Dehongliad |
pH |
7.2 |
6.5 |
Normal |
Ffosfforws (ppm) |
40 |
71 |
Ychydig yn isel |
Potasiwm (ppm) |
146 |
401 |
Isel |
Magnesiwm (ppm) |
68 |
100 |
Ychydig yn isel |
Tabl 1. Dadansoddiad o’r pridd ar Fferm Ffrith
Penderfynwyd defnyddio plygiau planhigion pwmpenni yn hytrach na drilio’n uniongyrchol, felly cafwyd hyd i fferm leol i dyfu 3,000 o hadau Moon Harvest a 1,000 o hadau gwahanol gan gynnwys Kamo Kamo (stribedi) a Ghost (gwyn).
Cyrhaeddodd yr hadau blodau haul ddiwedd Mawrth. Cafodd yr ardal newydd ei chlirio yn barod i'w phlannu ar ôl i'r pridd gyrraedd 12ºC, er mwyn sicrhau'r amodau egino gorau. Cafodd 50kg o hadau blodau'r haul eu drilio tua diwedd mis Mai; fodd bynnag, roedd haidd ac indrawn yn y gymysgedd felly'r gobaith oedd y byddai'r blodau haul yn tyfu’n gryfach na’r grawnfwydydd.
Cyrhaeddodd y planhigion pwmpenni a dyfwyd ddechrau Mai yn barod i'w plannu. Plannwyd tua 3,500-4,000 o blanhigion pwmpenni o wahanol fathau â llaw yng nghanol mis Mai tua 0.4ha oddi wrth siop y fferm. Gyda’r dull hwn cafwyd cyfradd llwyddiant o 90% ar ôl plannu allan. Roedd y tywydd anarferol o sych yn golygu bod angen dyfrhau’r ardal yn drylwyr i helpu'r planhigion newydd sefydlu. Ychwanegwyd potasiwm ar gyfradd o 200kg yr hectar ynghyd â nitrogen - 65kg, ac ychydig bach o sylffwr, magnesiwm a chalsiwm i gydbwyso lefelau maetholion y pridd.
Ffigur 2. Plannu planhigion pwmpenni ar Fferm Ffrith ym mis Mai 2022
Roedd perygl y byddai’r cwningod yn difrodi'r planhigion newydd, felly gosodwyd ffens drydan o amgylch o'r ardal. Roedd difrod gan wlithod hefyd yn cael ei fonitro a rhoddwyd pelenni gwlithod organig lle oedd angen.
Roedd Mehefin yn fis arbennig o sych felly cafodd y pwmpenni i gyd eu dyfrio dros gyfnod o wythnos. Fel arfer, ni fyddai angen dyfrio na bwydo mwy ar y planhigion gan fod lefelau maetholion wedi'u cywiro wrth eu plannu.
Roedd rheoli chwyn yn hollbwysig yn ystod y cyfnod yma o dwf. Cynghorodd Chris Creed, agronomegydd ADAS, y dylid defnyddio dull chwynnu mecanyddol dros y 10 diwrnod nesaf cyn i'r chwyn fygu’r cnwd. Gwnaed y gwaith chwynnu yn y rhesi. Roedd y planhigion pwmpenni wedi sefydlu'n dda, ond roedd angen rheoli chwyn rhag iddynt gystadlu am faetholion a golau. Gwnaed unrhyw chwistrellu yn ofalus iawn rhag niweidio'r planhigion, felly yn hytrach na chwistrellu, roedd y ffocws ar dyfu.
Roedd y planhigion blodau haul yn gwneud yn dda ac roedden nhw wedi sefydlu. Ychwanegwyd cymysgedd o flodau gwyllt i'r ardal i ddod â lliw a bioamrywiaeth i'r cae. Hefyd mae blodau gwyllt yn tyfu ar hyd ymylon y prif gaeau, gan wneud llwybr y fferm yn fwy diddorol i gwsmeriaid pan fyddan nhw’n ymweld yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Roedd Gorffennaf 2022 yn fis eithriadol o boeth a sych gyda’r tymheredd uchel yn torri record. Roedd hyn yn golygu bod angen dyfrio mwy ar y planhigion pwmpenni, lle oedd modd. Roedd llawer iawn o chwyn yn dal i fod, gan gynnwys troed-yr-ŵydd gwyn, hynny yw, chwyn blynyddol sy’n tyfu’n gyflym. Mae troed-yr-ŵydd gwyn yn tynnu cryn dipyn o faetholion o'r pridd, felly roedd angen cael gwared arnynt. Mae hefyd yn tyfu'n uchel, felly gall effeithio ar estheteg yr ardal casglu pwmpenni a gallai atal y golau. Er gwaetha’r chwyn, roedd cyfran fawr o'r planhigion pwmpenni wedi sefydlu ac roedd ffrwythau’n dechrau tyfu arnynt.
Yn ystod y cam yma, mae marchnata a pharatoi ar gyfer croesawu ymwelwyr yn bwysig, gan gofio ystyried:
- cyfryngau cymdeithasol
- posteri
- cysylltu ag ysgolion lleol
- diwrnodau/amseroedd agor
- parcio
- asesiad risg ar gyfer ardaloedd cyhoeddus
- gwneud llwybr y fferm yn ddiogel dan draed
- arwyddion
- mannau eistedd
- toiledau
- bwyd a lluniaeth
- system archebu (os oes angen)
- costau ar gyfer casglu eich hun (blodau’r haul a phwmpenni)
Roedd ychydig o broblem gyda llwydni ar y dail pwmpenni ym mis Awst. Cawsant eu trin â ffwngleiddiad ac yna rhoddwyd hylif i fwydo’r dail i'w helpu i dyfu’n well ar ôl y driniaeth. O ran dwysedd, roedd y pellter rhwng y planhigion yn addas, ond y rheol gyffredinol yw 5,000 o blanhigion yr erw neu 12,500 yr hectar.
Erbyn mis Medi, roedd yr ardaloedd pwmpenni wedi tyfu’n dda er bod llawer o chwyn. Mae Harvest Moon yn bwmpen i ddechreuwyr ac mae'n hawdd ei thyfu ac roedd y math Mars yn gwneud yn dda hefyd. Gyda mis Medi gwlyb, unwaith y bydd y pwmpenni yn barod, mae'n werth ystyried eu casglu a’u cadw mewn ardal sych rhag iddynt bydru.
Canlyniadau
Erbyn Gorffennaf, roedd y cae blodau’r haul wedi sefydlu’n dda, er bod y blodau'n llai na'r flwyddyn flaenorol. Roedd y blodau gwyllt yn edrych yn lliwgar, gyda blodyn ffaselia yn blodeuo’n borffor, a oedd yn denu peillwyr ac yn ychwanegu at fioamrywiaeth ar y fferm.
Ffigur 3. Cae blodau haul yn Fferm Ffrith Awst 2022
Erbyn mis Awst, roedd y cae blodau’r haul wedi blodeuo ac roedd yn cael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, yn y siop ac ar y byrddau hysbysebu, gan ddefnyddio blwch gonestrwydd i bobl dalu. Roedd y lle ieir a’r moch wedi eu cwblhau hefyd, gyda'r llwybr fferm yn rhoi cyfle i gwsmeriaid weld y caeau, y planhigion a'r anifeiliaid a dysgu mwy amdanynt drwy arwyddion gwybodaeth.
Ffigur 4. Arwydd blodau’r haul yn Fferm Ffrith Awst 2022
Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o hyrwyddo'r fenter ‘casglu eich hun’, gyda 1,000 o ddilynwyr newydd. Roedd tua 1.2ha o flodau'r haul a gwerthwyd 2,200 o flodau am £2 yr un. Cost gychwynnol yr hadau oedd tua £100. Unwaith y bydd y blodau'n gwywo, gellir gadael yr hadau fel bwyd i'r adar, gan ddod â bioamrywiaeth a bywyd gwyllt ychwanegol i'r fferm. Heuwyd blodau gwyllt i hybu'r gwenyn ac ychwanegu bywyd i'r caeau. Mae hadau blodau'r haul yn cymryd dau fis a hanner i dri mis i flodeuo, felly os heuir nhw’n gynnar ym mis Ebrill, byddant ar gael o ganol Mehefin.
Roedd ardaloedd y pwmpenni yn agored o 5 Hydref ar y diwrnodau yr oedd y siop yn agored, sef dydd Iau, Gwener a Sadwrn ynghyd â dydd Sul yn ychwanegol, a’r diwrnod olaf oedd dydd Llun 31 Hydref. Hyrwyddwyd y fenter drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol presennol. Ystyriwyd y byddai darparu lluniaeth yn dod ag incwm ychwanegol, ond ni wnaed hynny eleni.
Ffigur 5. Pwmpenni cymysg Fferm Ffrith Hydref 2022
Prynodd y cwsmeriaid lawer mwy o bwmpenni na'r disgwyl. Erbyn y penwythnos olaf cyn Calan Gaeaf, roedd y stociau wedi darfod, er bod ychydig ar ôl i gwsmeriaid oedd yno. Tyfodd y pwmpenni'n dda a'r mathau anarferol oedd y rhai mwyaf poblogaidd ymysg ymwelwyr, ac roedd modd codi pris uwch amdanynt. Yn y pen draw roedd y chwyn oedd yn dal yno o fudd i’r ardaloedd gan eu bod yn atal y ddaear rhag mynd yn rhy fwdlyd dan draed. Darparwyd berfâu am ddim ynghyd â mynediad i bob rhan o lwybr y fferm. Roedd cwsmeriaid yn talu'n unig am y pwmpenni roedden nhw'n eu casglu. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn y siop, gan arwain at bryniannau ychwanegol.
Daeth y fenter ‘casglu eich hun’ i ben ar benwythnos olaf mis Hydref, hyd at Galan Gaeaf ar 31 Hydref. Bu'n llwyddiant mawr ac yn brysur tan y diwrnod olaf, gyda thua 3,500 o bwmpenni yn cael eu gwerthu a dim ond tua 100 o rai bach dros ben, a gafodd eu bwydo i'r moch, felly ni wastraffwyd dim.
Cafodd gwellt ei roi o dan draed yn y rhannau gwlypaf rhag i’r tir fynd yn rhy fwdlyd ac roedd adborth cwsmeriaid yn gadarnhaol gyda sylwadau'n pwysleisio pa mor addas i deuluoedd oedd y fenter, ac nad oedd yn rhy fasnachol. Cost y pwmpenni yw £2 a chodir pris uwch am y mathau anarferol, hyd at £8 yr un. Cynyddodd y gwerthiant yn y siop yn sgil y nifer ychwanegol o ymwelwyr ac mae cwsmeriaid newydd wedi'u sicrhau ar gyfer y dyfodol.
Costau ac enillion
Isadeiledd
Mae'r gwaith a wnaed yn cael ei ystyried fel buddsoddiad hirdymor gan fod y tir wedi ei ail-ddefnyddio ar y fferm ac nid yw bellach yn llawn dŵr.
Mae llwybr y fferm yn agored ar hyd y flwyddyn yn ystod oriau agor y siop ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr, yn enwedig teuluoedd gyda phlant.
Prisiau hadau a phlanhigion
Hadau pwmpenni a thyfu - £700
Hadau blodau'r haul - £100
Potash a ffwngleiddiad - £600
Berfâu - £200
Llafur
Llafur ychwanegol - £200
Enillion
Blodau haul – wedi gwerthu tua 2,200 am £2 y goes
Pwmpenni – wedi gwerthu tua 3,500 am rhwng £2-£8
Casgliadau
Ar y cyfan, roedd sychder yr haf yn golygu bod blodau'r haul a'r pwmpenni yn tyfu'n arafach ac yn y pen draw roedden nhw’n llai. Mae'r rhan fwyaf o'r tyfiant mewn pwmpenni’n digwydd o fis Awst ymlaen, oedd yn cyd-fynd â'r tywydd sychaf. Roedd 100% o ffrwythlondeb yn golygu bod ffrwyth ar bob planhigion, mae'n siŵr bod y gwenyn o'r ffaselia gerllaw wedi bod o gymorth.
Roedd cwsmeriaid yn mwynhau'r cyfle i dynnu lluniau ar y tractor ac o amgylch llwybr y fferm ac roedd hyn hefyd yn cyfrannu at yr hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol dros gyfnod y fenter. Roedd yr holl atyniadau ar y fferm yn effeithiol, gyda phobl yn mwynhau rhyngweithio â'r anifeiliaid, gan arwain at brofiad cadarnhaol ar y fferm. Roedd y berfâu bach yn boblogaidd iawn gyda phlant a theuluoedd.
Ffigur 6. Cyfle i dynnu lluniau ar y tractor yn Fferm Ffrith Hydref 2022
Mae siop y fferm yn golygu bod ymwelwyr yn gallu talu drwy'r siop, sy'n golygu nad oes costau llafur manwerthu ychwanegol. Mae cael menter ‘casglu eich hun’ ar dir wrth ymyl y siop yn creu llwyfan i addysgu'r cyhoedd ar fioamrywiaeth, peillwyr, ôl troed carbon ac yn y blaen, gan eu cynnwys yn rhan o’r fenter a theimlo'n falch o gefnogi'r siop a'r fferm. Mae Fferm Ffrith yn awyddus i arallgyfeirio i lenwi'r bylchau tawel yn y flwyddyn ffermio a hefyd i ddod yn fwy cynaliadwy o ran bioamrywiaeth a gwarchod y busnes a'r tir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ffigwr 7. Ed Swan, Fferm Ffrith Hydref 2022
Yr Hyn a Ddysgwyd
- Roedd parcio'n broblem a bydd angen lleoedd parcio ychwanegol y flwyddyn nesaf gan fod y rhai oedd yn casglu pwmpenni yn aros yn hirach na chwsmeriaid arferol y siop, gan olygu bod ciwiau'n datblygu a'r maes parcio yn llawn yn gyson.
- Roedd angen llafur ychwanegol i glirio a pharatoi ar gyfer y diwrnod canlynol ar ôl pob sesiwn.
- Yn y bôn, roedd y ffi mynediad wedi’i gynnwys ym mhris y pwmpenni. Efallai ei bod hi'n werth ystyried sut i hyrwyddo'r ffaith hon gyda chwsmeriaid y dyfodol.
- Mae annog pobl i fwynhau profiad y fferm yn ei gyfanrwydd yn creu'r canfyddiad o fod yn werth llawer gwell am arian.
- Mae cael y cyhoedd ar y safle yn golygu bod angen i chi fod yn gymdeithasol bob amser!
Sylwadau’r ffermwr
"Ar y cyfan, roedd y cyfan yn teimlo fel llwyddiant ac roeddem yn gallu estyn allan i fwy o gwsmeriaid ac i rai newydd. Y tro nesaf, byddaf yn rhoi mwy o blanhigion pwmpenni yn yr un ardal er mwyn lleihau'r bylchau. Plannais y planhigion ar gyfradd o 4,000 yr hectar tra bod modd plannu 5,000 o blanhigion yr hectar. Dw i'n bwriadu cadw trefn ar y chwyn hefyd a mynd i’r afael â nhw’n gynharach y tro nesaf!"