Fferm Clawdd Offa, Llaneurgain, Sir y Fflint

Prosiect Safle Ffocws: Dylanwad amrywiadau Kappa Casein ar gynhyrchiant caws

Nod y prosiect: 

Ymchwilio i’r potensial o gynyddu cyfanswm y cynnyrch caws trwy ddethol y genyn Kappa Casein BB.

Cyflwyniad:

Dangosodd astudiaethau mewn labordai yn y gorffennol bod presenoldeb a chyfanswm y Casein yn y llaeth yn cael dylanwad mawr ar y cynnyrch caws a’i ffurfiad. Credir bod pob litr o laeth sydd â lefel uwch o’r BB Kappa Casein dymunol yn cynhyrchu 10% yn fwy o gaws ac yn ffurfio hyd at 25% yn gyflymach nag AA Kappa Casein ar yr un canrannau o fraster a phrotein.

Hyd yn ddiweddar roedd canfod y buchod sy’n cario’r genyn BB yn ddrud ac yn cymryd amser a dim ond ar gyfer ymchwil yr oedd yn cael ei wneud. Ond erbyn hyn mae’n fasnachol bosibl cael proffil o fuches o ran y genyn Kappa Casein a all gael dylanwad mawr ar effeithlonrwydd cynhyrchu caws mewn ffatrioedd. Mae’r potensial yno i gynhyrchu mwy o gaws yn gyflymach, gan gynyddu’r trosiant a chyfanswm y cynnyrch mewn cerwyni caws.

Sut y mae’r genyn BB ar gyfer Kappa Casein yn dylanwadu ar y cynnyrch caws:

Y genyn BB sy’n gyfrifol am gyfanswm y cynnwys casein ond hefyd mwy o Kappa Casein. Mae gan Kappa Casein miselâu casein llai sy’n gwella’r modd y mae ceuled yn ceulo, mae’r caul yn fwy cadarn ac yn gallu cadw mwy o sylweddau fel braster a mwynau yn hytrach na mynd ar goll yn y maidd, sy’n arwain at gynnydd yn y cynnyrch.

Mae’r rhan fwyaf o wartheg Jersey yn cario’r genyn BB ynghyd â % braster a phrotein uwch. Mae Byffalo Dŵr yn cario BB 100% a dyna pam bod ansawdd a chyfanswm y caws Mozzarella a gynhyrchir o’u llaeth mor dda. Mae tua 15-23% o wartheg llaeth Du a Gwyn yn Ewrop yn cario’r genyn BB homosygaidd ac mae’r gweddill yn cario AA homosygaidd neu BA heterosygaidd.

Beth fydd yn cael ei wneud:

Bydd 100 o fuchod o un uned sy’n lloea yn y gwanwyn sy’n cyflenwi ffatri gaws Arla Llandyrnog yn cael eu profi, trwy brawf blew, am eu proffil Kappa Casein a’u rhannu yn dri grŵp posibl. Kappa Casein BB (dymunol ar gyfer cynhyrchu caws) – Kappa Casein BA a Kappa Casein AA.

Bydd y rhan fwyaf o anifeiliaid naill ai yn Friesian Seland Newydd neu groes Jersey.

O’r samplau a ddaw yn ôl, bydd gwartheg o oedran tebyg, yr un cyfnod llaetha a % braster a phrotein yn cael eu dyrannu i bob grŵp a’u godro ar wahân er mwyn cael ei droi yn gaws meddal yn y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni. Yma bydd cyfres o arbrofion ar raddfa fach yn cael eu cynnal gan yr arbenigwraig Labordy Llaeth Julia Skinner, a fydd yn rhedeg arbrofion ar raddfa fach ar amser ceulo ceulad, pa mor gadarn yw ac yn cynnal profion ar ei wead. Hefyd bydd cerwyn 40 litr arbenigol yn mesur yn fanwl faint o gaws meddal a gynhyrchwyd am bob litr o laeth. Gan mai caws meddal fydd yn cael ei gynhyrchu gall y profion hyn gael eu cynnal dros gyfnod o 24 awr.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefnllan
Neil Davies Cefnllan, Llangamarch, Powys Meysydd allweddol yr
Pendre
Tom a Beth Evans Pendre, Llanfihangel-y-Creuddyn, Aberystwyth
Moor Farm
Andrew Rees Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd Prif Amcanion