Fferm Noyadd, Rhaeadr

Digwyddiad Safle Ffocws: Rheoli trogod, y clafr a llau 

 

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ffermwyr defaid yng Nghymru yw rheoli ectoparasitiaid wrth i’w hymwrthedd i driniaethau cemegol gynyddu, tra bod y nifer o driniaethau cemegol effeithiol sydd ar gael yn lleihau.

Rheoli trogod, y clafr a llau 

Mae Liz Jones, sy’n filfeddyg, wedi tynnu sylw at broblem trogod penodol yn ardal Cwm Elan o ganlyniad i ffermio tir comin a chymysgu defaid. Mae llau a chlafr hefyd yn broblem.

Negeseuon Allweddol

Mae nifer y trogod yn cynyddu o ganlyniad i’r gaeafau mwyn a’r hafau gwlyb gan fod trogod yn weithgar pan mae’r tymheredd dros 7oC. Mae ganddyn nhw gylch bywyd o dair blynedd ac yn cymryd un pryd o waed y flwyddyn cyn trosglwyddo clefydau yn y flwyddyn ganlynol.  Mae heintiau yn digwydd pan mae trogen yn cymryd gwaed heintiedig o ddafad, sy’n aros yn y chwarren boer, ac yna fydd y poer yn cael ei chwistrellu i mewn i’r ddafad yn y flwyddyn ganlynol.

Rydym ni’n gweld llai o ddefaid yn pori’r tir comin sydd wedi arwain at newid yn y llystyfiant ar dir mynyddig. Mae trogod yn ffafrio llystyfiant trwchus/dwys yn enwedig rhedyn a grug sydd hefyd yn cael ei ffafrio gan gynlluniau stiwardiaeth amgylcheddol fel Glastir ond nid ydynt yn byw ar dir pori gwell neu gaeau sy’n draenio’n dda gan fod y lleithder yn isel. 

Mae heintiau hefyd yn cynyddu gan fod lleihad wedi bod mewn trochi defaid gyda Organophosphate. 

Y Breid (Louping Ill) - 5-10% o farwolaethau mewn ardaloedd heintiedig. Marwolaeth mewn defaid llai na 2 oed.  Unwaith mae dafad wedi cael eu heintio, mae’n datblygu imiwnedd drwy ei hoes ac yn pasio hynny ymlaen i’w hŵyn yn y colostrwm. Mae’r imiwnedd yn para 4 mis yn yr ŵyn felly mae’n well peidio eu troi i dir sydd wedi ei heintio â throgod oherwydd gallai’r marwolaethau fod yn uchel. Mae brechlyn y breid ar gael a dylai gal ei roi 1 mis cyn iddyn nhw fynd i’r mynydd.

Rheolwch niferoedd y trogod trwy drochi - 6 wythnos o reolaeth - trochwch y mamogiaid ar ôl ŵyna er mwyn rheoli trogod y gwanwyn ac eto ym mis Awst/Medi er mwyn rheoli trogod yr Hydref.

Dim ond y mannau sydd wedi cael eu gorchuddio y mae Pour On yn eu diogelu, bydd trogod yn dal yn medru cael at y coesau a’r bol, ond gallai cael ei ddefnyddio ar ŵyn dros un wythnos oed.

Yr un ffordd o reoli’r breid yw trwy frechu a rheoli trogod.

Clefydau trogod:

  • Y Breid - brechu - trochi - Pour On
  • Twymyn Trogod - atal y system imiwnedd = tueddol i gael clefydau eraill - clwy’r cymalau/pasturella, pneumonia, erthylu, anffrwythlondeb.  Bydd yn cael ei gadarnhau gyda phrawf gwaed. Peidiwch â throi defaid at gynefinoedd trogod. Trochi gyda Organophosphate a Pour On i’w reoli.
  • Pyemia Ŵyn - clwy’r cymalau / anffurfio - ŵyn rhwng 2 a 12 wythnos yn dueddol o’i ddal - trin gyda Betamox LA.

Mae heintiau llau mewn defaid, sy’n amlwg i’r llygad (y corff yn goch a chnoi), wedi cynyddu’n gyflym wrth i drochi gydag Organophosphate leihau.  Cynyddir plâu llau yn ystod misoedd y gaeaf a lleihau yn yr haf.  Mae cneifio yn lleihau niferoedd y llau o 60%. Bydd defaid mewn cyflwr gwael yn dioddef mwy ac yn medru cael eu heffeithio oherwydd brîd, hyd y wlanen ac iechyd y ddafad. Mae llau yn lledaenu o ddafad i ddafad felly mae heintiau yn digwydd yn gyflym ar dir comin. Trochi gydag Organophosphate yw’r ffordd orau o drin llau.

Atal: Rhowch ffensys dwbl ar dir sy’n ffinio â chymydog, rhowch eich defaid mewn cwarantîn oddi ar dir comin, diheintiwch yr offer cneifio, trochwch eich defaid mewn Organophosphate ar ôl cneifio.

Mae defaid yn dal y clafr trwy gysylltiad uniongyrchol â defaid eraill ac yn anuniongyrchol drwy’r farchnad, llwyni ac offer cneifio. Wrth i haint sefydlu bydd y ddafad yn colli ei gwlan a bydd y clafr yn ffurfio ac yna bydd y ddafad yn colli pwysau.

Mae’n rhaid i ddiagnosis y clafr gael ei wneud gyda chrafiad y croen gan y milfeddyg. Trin trwy frechu a throchi gydag Organophosphate.

Drensio - Dylai defaid cael eu pwyso CYN derbyn y driniaeth er mwyn sicrhau bod y maint cywir yn cael ei roi, drensio yn ôl y trymaf yn y grŵp. Trwy ddyfalu pwysau’r ddafad, gallai’r ffermwr golli arian gan nad yw’r anifail yn cael ei drin yn gywir. 

 

Diolch i’n siaradwr gwadd Liz Jones o filfeddygfa Ddole Road a Tony Morgan o Fferm Noyadd.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Halghton Hall
David Lewis Halghton Hall, Bangor Is-coed, Wrecsam Meysydd
Nantglas
Iwan Francis Nantglas, Talog, Sir Gaerfyrddin Meysydd allweddol
Cae Haidd Ucha
Paul a Dwynwen Williams Cae Haidd Ucha, Nebo, Llanrwst Prif