Penrhiw, Capel Dewi, Llandysul

Prosiect Safle Ffocws: Trosi uned bîff a defaid pori sefydlog i system bori gylchdro

Nodau’r Prosiect:

  • Dangos y broses o drosi o fferm bîff a defaid pori sefydlog i system bori gylchdro a’r manteision cysylltiedig.
  • Nod y prosiect hwn yw amlygu’r holl ystyriaethau ymarferol wrth rannu’r fferm yn ddarnau a gosod y seilwaith perthnasol a chynnig patrwm ar gyfer gwaith trosi o’r fath.
  • Cynhaliwyd y prosiect hwn ar safleoedd eraill ar y Rhwydwaith Arddangos, gan gynnwys Safle Ffocws Pen y Gelli, Orsedd Fawr ac Aberbranddu.
  • Mae manteision pori cylchdro mewn cymhariaeth â systemau stocio sefydlog wedi eu cofnodi yn fanwl ac mae’r arfer yn cael ei ddefnyddio yn eang yn y sector llaeth yn effeithiol iawn.
  • Er gwaethaf ei botensial anferth i wella’r defnydd o laswellt, ei dyfiant a’i ansawdd, eithriad yw systemau pori cylchdro yn y sectorau bîff a defaid.
  • Un o’r rhesymau posibl am hyn yw graddfa’r amrywiaeth yn y da byw ar y fferm o ran gofynion porthiant yn ystod y tymor pori. Mae hyn yn creu her sylweddol pan ddaw yn fater o lunio cyllideb porthiant trwy’r flwyddyn
  • Bydd y prosiect hwn yn ymdrin â’r sialensiau hyn ac yn cynnig atebion ymarferol ar systemau cymysg o’r fath.
  • Yn y prosiect bydd tua 30ha yn cael eu rhannu yn badogau llai gan ddefnyddio ffensys trydan parhaol a thros dro.  

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Hardwick
Fferm Hardwick, Y Fenni Prosiect Safle Ffocws: Defnyddio
Llyn Rhys
Llyn Rhys, Llandegla, Wrecsam Prosiect Safle Ffocws: Ymchwilio i
Pencraig
Trelech, Caerfyrddin Prosiect Safle Ffocws: Deall gweithrediad