Pensarnau, Cross Inn, Llandysul, Ceredigion

Prosiect Safle Ffocws: Ymchwilio a yw lefelau uchel o brotein crai yn y dogn yn gysylltiedig â lleihad yn ffrwythlondeb buchod llaeth

Cyflwyniad i'r prosiect:

Mae gwartheg ar fferm Pensarnau yn cael eu cadw dan do am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ac yn cael eu bwydo ar ddogn cymysg cyflawn (TMR) yn seiliedig ar dri thoriad o silwair glaswellt. Mae’r ffermwr wedi sylw pan fo buchod yn cael eu symud i’r borfa neu’n derbyn silwair gyda lefelau uwch o brotein crai, mae lefelau wrea’r llaeth yn codi ac mae gostyngiad cysylltiedig mewn ffrwythlondeb o ran gwartheg yn beichiogi yn ystod y cyfnod hwn.

Mewn adolygiad gan Brifysgol Cornell o astudiaethau ynghylch dognau â llawer o brotein a ffrwythlondeb mewn buchod, nodwyd bod protein uchel wedi cael ei gysylltu yn aml â gostyngiad yn y perfformiad wrth genhedlu. Mae’r mwyafrif o fuchod sy’n cynhyrchu llawer o laeth yn bwyta mwy o brotein na’r angen, ac mae crynodiad y wrea yn eu gwaed yn cynyddu.

Mae nitrogen wrea llaeth yn ffordd gyflym, heb lawdriniaeth, a llai costus o asesu’r lefelau wrea’r gwaed a monitro metabolaeth gyffredinol protein mewn buchod sy’n llaetha. Gall mesuriadau o lefelau wrea yn y gwaed ac yn y llaeth roi mynegai defnyddiol at astudio’r cysylltiad rhwng metabolaeth protein yn y diet ac effeithlonrwydd wrth atgenhedlu. Ar draws llawer o astudiaethau, gwelwyd cydberthyniad rhwng crynodiad uwch o wrea yn y gwaed neu yn y llaeth a gostyngiad yn ffrwythlondeb buchod llaeth, a hynny mewn buchesi o dan do a buchesi a oedd yn pori yn yr awyr agored.  

Amcanion y prosiect:

  • Casglu gwybodaeth ynglŷn â lefelau wrea llaeth, wrea gwaed, protein crai yn y dogn a chofnodion ffrwythlondeb
  • Dadansoddi’r wybodaeth hon i weld a oes unrhyw gysylltiadau’n dod i’r amlwg
  • Darparu arweiniad ar lunio dogn gwartheg i gynnig gwell canlyniadau o ran cyfraddau beichiogi 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol:

  1. Darparu gwell canlyniadau o ran cyfraddau beichiogi gan ddefnyddio lefelau wrea llaeth a gwaed fel system rybuddio gynnar ar gyfer diffyg cydbwysedd yn y dogn
  2. Darparu canllawiau ynglŷn â defnyddio lefelau wrea llaeth fel ffynhonnell wybodaeth ynglŷn â metabolaeth  protein yn y dogn gan y fuwch

Amserlen a Cherrig Milltir:

Mai 2019 Dadansoddi cofnodion ffrwythlondeb a gasglwyd drwy gofnodion llaeth NMR, lefelau wrea llaeth yn y tanc a’r dognau a gafodd eu bwydo o fis Ionawr 2018

Mehefin - Medi 2019 Dadansoddi samplau porthiant a chasglu samplau gwaed yn fisol gan 9 buwch sy’n barod i’w chyflwyno i’r tarw i ganfod wrea, Beta-hydroxybutyrate (BHB) ac asidau brasterog heb eu hesteru (NEFA)

Awst - Rhagfyr 2019 Monitro cyfraddau beichiogi drwy gynnal diagnosis beichiogrwydd gan ddefnyddio samplau llaeth a gasglwyd gyda chofnodion llaeth NMR 

Chwefror 2020 Digwyddiad agored ar y fferm i gyflwyno’r canlyniadau


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif
Fferm Plas
Arwyn Jones Fferm Plas, Llandegfan, Ynys Môn Prif Amcanion
Fferm Cilwrgi
Fferm Cilwrgi, HMP Prescoed, Brynbuga Prosiect Safle Ffocws