Pam y byddai Paul yn fentor effeithiol

  • Mae gan Paul Rolt dros ugain mlynedd o brofiad o fod yn berchen ar fusnesau gwinllan a’u rhedeg, gyda chynigion i dwristiaid fel rhan o’r busnes ehangach. Mae ei sgiliau pobl gwych a’i wybodaeth am y pwnc yn golygu ei fod yn croesawu’r cyfle i rannu ei brofiad a’i wybodaeth a all gyfrannu ‘mewn rhyw ffordd fach’ at lwyddiant gwinwyddaeth yng Nghymru.

  • I Paul a’i bartner, Gwinllan Hebron Vineyard yng Ngorllewin Cymru, a blannwyd ganddynt yn 2010, yw eu hail fusnes gwinllan, roedd y cyntaf yn Andalusia, Sbaen. Maent wedi mynd â’r ddwy winllan trwy drosglwyddiad organig gyda’r ddwy yn cael eu rhedeg ar sail arferion ffermio dim-ymyrraeth ac adfywiol, gyda chynaliadwyedd bob amser yn arwain pob penderfyniad.

  • Yn ymroddedig iawn i winwyddaeth adfywiol, mae gan Paul sgiliau cyfathrebu rhagorol ac mae galw mawr amdano fel siaradwr ar bynciau gan gynnwys gwinwyddaeth adfywiol a gwneud gwin naturiol.  Gan ei fod yn cynnal teithiau gwinllan, digwyddiadau blasu a thapas yn gyson, bydd yn gyfforddus iawn yn eich mentora ar ei hoff bwnc – sef y grawnwin y mae’n eu tyfu a’r gwin y mae’n ei gynhyrchu – ond bydd yn barod iawn i’ch mentora ar arallgyfeirio, ffermio adfywiol a’i bynciau arbenigol eraill hefyd! 

  • Yn wrandäwr da, mae’n dweud bod yn rhaid i’r angen i weithredu’n gynaliadwy fod yn broses barhaus yn unrhyw fusnes, pa bynnag gyfnod y mae ynddo o ran ei ddatblygiad.

     

  • Yn ogystal â’r sgiliau ymarferol o weithredu gwinwyddaeth adfywiol organig ymarferol, mae gan Paul brofiad gwerthfawr o redeg gwinllannoedd sydd â ffrydiau ategol neu wahanol o incwm yn gysylltiedig â nhw, y cyfan wedi eu datblygu mewn modd cynaliadwy.
     

Busnes fferm presennol

  • Plannodd Paul a’i bartner Winllan Hebron Vineyard yn 2010. Yn enghraifft brin o winllan heb ymyrraeth, isel ei heffaith, adfywiol, mae eu grawnwin yn cael eu prosesu gan ddefnyddio technegau gwneud gwin naturiol ac mae’n cael ei wneud mewn ‘amphorae’ - y llestri eplesu mwyaf traddodiadol. Maent yn gwerthu gwin i nifer o fwytai a gwestai ‘pen uchaf y farchnad’ yn ogystal â rhai masnachwyr gwin, gyda’r mwyafrif yn gwerthu’n uniongyrchol o ddrws eu seler. 

  • Mae ganddynt hefyd ddau gynnig i dwristiaid - un yn ysgubor tair ystafell wely wedi ei droi’n llety gwyliau - a’r llall yw teithiau, digwyddiadau blasu a thapas a gynhelir bob pythefnos yn fras trwy gydol y tymor.

  • Mae partner Paul yn gweithredu Sauce Catering, sy’n darparu’r holl arlwyo ar gyfer yr elfen tapas o’r teithiau, yn ogystal â chynnig coginio cymunedol oddi ar y safle, gweithdai, digwyddiadau ag arlwyo preifat a rhaglenni coginio cymunedol.

  • Yn rhan ganolog o’r gymuned leol, mae unigolion o’r gymuned yn helpu i gynaeafu’r grawnwin ac mae’r winllan wedi cynnal arddangosfeydd i’r gymuned.
     

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad 

  • Ar hyn o bryd mae Paul yn rhedeg un o ddim ond ychydig o winllannoedd adfywiol yn y Deyrnas Unedig a dyma’r unig winllan yng Nghymru sy’n gwneud gwin mewn amphorae. Cred hefyd ei fod yn rhedeg yr unig winllan fasnachol yn y byd sydd wedi datblygu system drellis sy’n defnyddio helyg byw. 

  • Mae ei lwyddiannau arbennig eraill yn cynnwys cael ei wahodd i gymryd rhan mewn dwy astudiaeth wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru - un yn brosiect ymchwil am flwyddyn gyfan. Bu’n gweithredu’r grŵp rheoli (dim chwistrellu) i ymchwilio i leihau chwistrellu cemegolion synthetig ar winllannoedd. Roedd y prosiect arall ar gyfer astudiaeth yn ymchwilio i winllan dim gwastraff o safbwynt cynaliadwyedd. 

  • Bu Paul yn helpu i ddatblygu strategaeth win Llywodraeth Cymru, a lansiwyd y flwyddyn ddiwethaf, trwy gymryd rhan yn y clwstwr diodydd diddordeb arbennig. 

  • Mae hefyd yn gynhyrchydd/ymgeisydd arweiniol mewn cais PGI newydd ar gyfer gwin naturiol Cymru 

  • Er ei fod yn cyfaddef nad oes ganddo gymhwyster gwinwyddaeth cydnabyddedig, mae ei wybodaeth yn cael ei chydnabod ac mae’n parhau i fod yn aelod gweithredol o’r clwstwr diddordeb arbennig ac yn aelod o’r Sefydliad Gwinwyddaeth Adfywiol.

Awgrymiadau da am lwyddiant mewn busnes 

“Mae gwinwyddaeth yn her yng Nghymru. Cymrwch amser i arsylwi a chynllunio; mae hwn yn gnwd tymor hir felly mae gwneud y penderfyniadau cywir wrth ddechrau eich busnes gwinllan yn talu ar ei ganfed yn y dyfodol.

“Cadwch gynaliadwyedd yn amlwg yn eich proses lunio penderfyniadau ac archwilio arallgyfeirio i agor ffrydiau incwm cysylltiedig â’ch busnes craidd.”