Richard Hooson, CARA Ltd

Er bod Richard wedi'i leoli yn Amwythig, mae'n barod i deithio ar draws Cymru i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Mae gan Richard wybodaeth helaeth o'r diwydiant amaethyddol gan ei fod wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd amaethyddol ers dros 20 mlynedd, ynghyd â ffermio ochr yn ochr â'i deulu ar eu fferm. Yn ogystal â hyn, mae ganddo brofiad blaenorol o weithio gyda sefyllfaoedd teuluol anodd a hwyluso cyfarfodydd teuluol.