Gwneud y gorau o gynnyrch india corn ac effeithlonrwydd nitrogen

Bydd y prosiect yn ymchwilio a allai "L-CBF BOOSTtm," sef gwrtaith carbon hylifol, ac "Instinct," sef cynnyrch sefydlogi nitrogen, gynyddu cynnyrch cnydau gan hefyd leihau colledion maetholion. Bydd profion pridd sbectrwm eang yn cael eu cynnal ar bob cae, yn ogystal â chynllunio rheoli maetholion. Bydd "Instinct" yn cael ei wasgaru ar y rhan fwyaf o’r caeau, gyda dau gae yn cael eu defnyddio fel ardaloedd rheoli: un heb ddefnyddio unrhyw gynnyrch, ac un arall yn cael ei rannu’n leiniau rheoli a lleiniau triniaeth er mwyn hwyluso rheolaeth. Bydd llwyddiant yn cael ei fesur yn ôl cynnyrch y cnydau wrth gynaeafu, wedi’i bennu gan ddata cynaeafu ac offer pwyso’r contractwr o’r trelar, ynghyd â chasglu samplau deunydd sych o’r safle treulio. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer cyfrifo elw ar fuddsoddiad o ganlyniad i ddefnyddio’r cynhyrchion hyn.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Storio carbon
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Defnyddio adnoddau’n naturiol
  • Ecosystemau cydnerth