Mae cynllun marchnata digidol yn bwysig i fusnesau o bob maint ei ddatblygu. Mae cynllun marchnata digidol yn gweithredu fel map ffordd i gyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd targed yn effeithiol ar draws amrywiol sianeli digidol.
Bydd y cwrs hwn yn dangos i chi sut i amlinellu amcanion a nodau clir gyda strategaethau y gellir eu gweithredu i gyflawni gweledigaeth y cynllun.
Bydd y cwrs hwn yn galluogi perchnogion busnes i ddeall eu marchnad darged, eu cystadleuwyr a thueddiadau diwydiant.
Yn y cwrs hwn, dangosir i chi sut i ddefnyddio offer digidol i greu ymgyrchoedd sy'n apelio at eich cynulleidfa. Trwy fuddsoddi amser ac adnoddau i ddatblygu cynllun marchnata digidol a gwybod sut i ddefnyddio offer digidol, gall perchnogion busnes gwneud y gorau o’u presenoldeb ar-lein, gwella ymwybyddiaeth brand, tyfu eu sylfaen cwsmeriaid a chyflawni twf cynaliadwy yn y dirwedd gystadleuol ar-lein heddiw.
Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar:
• Adolygu eich sefyllfa marchnata digidol presennol
• Adolygu ac ailwampio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol eich busnes ac offer i hyrwyddo, cyrraedd a thargedu cwsmeriaid, grwpiau a llwybrau marchnata newydd trwy apiau ac offer digidol
• Adolygu/diffinio a datblygu cynllun marchnata digidol a chynllun cyfryngau cymdeithasol
• Gwybod sut i ddefnyddio ystod o offer marchnata digidol a chyfryngau cymdeithasol ac offer olrhain
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: