Mae Deall a Defnyddio Meddalwedd MTD (Making Tax Digital) yn gwrs pwrpasol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer tirfeddianwyr, ffermwyr, coedwigwyr a chynhyrchwyr bwyd sy’n dymuno cael dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r arferion perthnasol sydd eu hangen i ddefnyddio meddalwedd MTD fel QuickBook a XERO fel y gallant rheoli eu cyfrifon a chynllunio ariannol yn effeithiol yn eu busnes fferm / amaeth.
Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar:
• Gyfarwyddo dysgwyr â’r llinellau amser MTD diweddaraf sydd ar waith ar gyfer busnesau ac unigolion sy’n trawsnewid i MTD llawn a symud o daenlenni / cyfrifon papur
• Ystyried ymarferoldeb, costau a manteision defnyddio'r feddalwedd MTD iawn yn eich busnes fferm / amaeth gan roi gwybodaeth ymarferol i ddysgwyr i roi'r feddalwedd MTD angenrheidiol ar waith yn eu busnes fferm / amaeth
• Crynhoi gwybodaeth ariannol a dyddiadau i'ch helpu i reoli a chynllunio'ch cyllid / cyfrifon yn effeithiol fel y gallwch ariannu, tyfu a datblygu eich busnes gan ddefnyddio'r rhaglen MTD gywir
• Nodi’r Feddalwedd MTD iawn i'w defnyddio yn eich busnes fferm / amaeth h.y. QuickBooks a Xero
• Dangos i ddysgwyr sut i ddefnyddio meddalwedd MTD fel: QuickBooks a Xero.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: