Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer: Rheolwyr fferm, staff a rheolwyr mewn busnesau gwledig.

Trosolwg: Mae'r cwrs tridiau hwn wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sy'n newydd i reoli pobl er mwyn iddynt ddysgu a datblygu sgiliau rheoli effeithiol sy'n hanfodol yn y gweithle gwledig. Cânt eu cyflwyno i wahanol ddamcaniaethau, arferion a chysyniadau rheoli, yn ogystal â’u trafod a’u rhoi ar waith. Bydd y rhain yn berthnasol i'w hamgylchedd gwaith. Mae'r cwrs yn cyfuno trafodaethau dan arweiniad hyfforddwr, theori, ymarferion grŵp, a holiaduron.

Nod: Darparu dealltwriaeth glir o rolau a chyfrifoldebau rheolwr a datblygu'r sgiliau perthnasol i berfformio'n effeithiol ac effeithlon yn y rôl hon. Deall y gwahanol ddulliau rheoli a sut i addasu eich dull i'r sefyllfa i gynhyrchu'r canlyniadau gofynnol trwy arferion cyfathrebu effeithiol.

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn gallu:
•Deall diwylliant gwledig a sut i reoli ac ymdrin â newid
•Datblygu sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol da, a'u defnyddio o fewn yr amgylchedd tîm
•Perthnasu damcaniaethau, cysyniadau ac egwyddorion rheolaeth i'w gwaith a nhw eu hunain
•Deall eu rôl yn y broses o ddysgu a datblygu staff, a phwysigrwydd datblygu sgiliau staff
•Cydnabod pwysigrwydd cymhelliant drostynt eu hunain, a dynameg tîm
•Teimlo'n hyderus i ddirprwyo'n llwyddiannus
•Datblygu technegau datrys problemau a gwneud penderfyniadau
•Datblygu technegau cynllunio ac offer rheoli amser sy'n benodol i ffermydd a busnesau gwledig

Dull: Bydd y cwrs yn cyflwyno cyfres o gysyniadau a syniadau rheoli arfer gorau i chi ynghyd â chyfleoedd i fyfyrio ar y syniadau hynny, eu trafod a'u rhoi ar waith.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Simply the Best Training Consultancy Ltd

Enw cyswllt:
Julie Thomas


Rhif Ffôn:
01443 670267


Cyfeiriad ebost:
office@simplythebesttc.co.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.simplythebesttc.co.uk


Cyfeiriad post:
Caerlan Farm, Tonypandy, Rhondda Cynon Taf CF40 1SN


Ardal:
Cyrsiau llif gadwyn, plaladdwyr, cymorth cyntaf ac ATV yn Ne Ddwyrain Cymru. Popeth arall ar gael ar draws Cymru gyfan


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Gwell systemau trin da byw er mwyn cynyddu elw
Dyma gwrs undydd gyda thystysgrif am gwblhau. Drwy ganolbwyntio
Cwympo a Phrosesu Coed hyd at 380mm
Cwrs hyfforddiant dros 3 diwrnod gydag asesiad annibynnol a
Technegau Ŵyna
Cwrs hyfforddiant undydd ymarferol gyda thystysgrif hyfforddiant