Mae ffermio mewn Safleoedd Gwarchodedig yn gofyn am agwedd sensitif tuag at amaethyddiaeth. Mae'r modiwl hwn yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i ffermwyr a'r heriau o warchod rhai o dirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau pwysicaf Cymru. Yng Nghymru, mae mwy nag 80% o'r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio a 15% arall ar gyfer coedwigaeth. Ymhlith y tir hwn mae Safleoedd Gwarchodedig sy'n gofyn am reolau a rheoliadau penodol i'w rheoli'n effeithiol ac i ddiogelu adnoddau naturiol Cymru.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]