Mae Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yn glefyd pwysig ymhlith gwartheg. Mae BVD yn glefyd a gaiff ei achosi gan firws sy’n atal yr imiwnedd ac sy’n achosi problemau atgenhedlu ymhlith gwartheg. Mae hyn yn gwneud achosion o niwmonia, dolur rhydd a chlefydau eraill yn llawer gwaeth mewn buchesi a gaiff eu heffeithio. Mae hefyd yn ei gwneud hi’n anodd i wartheg heintiedig, yn enwedig heffrod, feichiogi. At ei gilydd, mae hyn yn arwain at broblemau mawr o safbwynt ariannol a lles ar y fferm.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]