Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu am dyfu eich ffynonellau protein eich hun ar gyfer porthiant da byw, gan felly leihau eich dibyniaeth ar brotein wedi'i fewnforio. Protein sydd â’r gost unigol fwyaf ar gyfer porthiant da byw. Yn bennaf mae'n cael ei fewnforio a'i gymysgu'n ddognau porthiant i gynyddu twf a chynhyrchiant da byw. Ond mae dibynnu ar fewnforion yn golygu bod ffermwyr yn agored i ansefydlogrwydd cyflenwad a phrisiau. Trwy dyfu eu ffynonellau protein eu hunain, mae ffermwyr yn rheoli eu costau eu hunain cymaint â phosibl.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]