Swyddogaeth GenoCells wrth ddynodi buchod â chyfrif celloedd Somatig uchel mewn buches laeth gydag un sampl o danc bylc
Mae Moor Farm yn fferm laeth 85 hectar gyda 100 o fuchod Holstein Friesian sy’n lloia yn y gwanwyn, sy’n lloia mewn bloc o 8 wythnos, ac maent yn cadw 80 o heffrod cyfnewid gyda phwyslais ar fuchod da yn enynnol a defnyddio cymaint o laswellt yn y deiet ag sy’n bosibl. Ar hyn o bryd mae’r fuches yn cynhyrchu cyfartaledd o 7,500 litr y fuwch gyda 4.6% o fraster menyn a 3.67% protein sy’n cyfateb i 620 kg o solidau llaeth i bob buwch. Mae’r cyfrif celloedd somatig (SCC) ar hyn o bryd yn 100,000 cell/ml.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Rhys ynghyd â’i rieni Dei a Heulwen Davies wedi rhoi profion genomig i’w stoc ifanc i amcangyfrif eu potensial geneteg a gadael iddyn nhw wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu buches.
Yn gysylltiedig â phrofion genomig, mae GenoCells yn brawf llaeth y genhedlaeth nesaf sy’n rhoi SCC i fuchod unigol gan ddefnyddio un sampl o’r tanc llaeth. Mae GenoCells yn defnyddio proffil genomig pob buwch i ddynodi eu cyfraniad o gelloedd somatig a thrwy hynny’n cael gwared o’r gofyn i samplo pob buwch yn unigol a fyddai’n cymryd llawer o amser.
Gan fod bron y fuches gyfan bron yn cael cael prawf genomig ar Moor Farm, bydd y prosiect hwn yn cymharu cywirdeb profi samplau tanc bylc i ddynodi SCC buchod unigol trwy gyfateb proffil genomig y fuwch unigol yn y fuches mewn cymhariaeth â dulliau cofnodi llaeth traddodiadol.
Y nod yw i’r prawf ddynodi’r buchod sy’n troseddu yn gyflym yn dilyn unrhyw ganlyniadau SCC uchel yn ystod profion cyson cyn talu a thrwy hynny gynnal taliadau uwch. Hefyd, gan ei fod yn ddull llai llafurus o brofi, bydd o fantais fawr yn y cyfnod trosglwyddo pan fydd y fuches ar ei mwyaf bregus o ran mastitis a mwy o SCC gyda’r gobaith o leihau’r defnydd o wrthfiotig eto.
Trwy yrru mwy o welliant mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Iechyd a lles anifeiliaid ar ei orau
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm