Pam fyddai Erin yn fentor effeithiol

  • Mae Tomos yn bartner ym musnes y fferm sy’n cynnwys 350 erw o dir ger y Bontfaen lle mae’n rhedeg menter fferm gymysg ochr yn ochr â’i dad.  Mae hyn yn cynnwys godro, defaid, dofednod, tatws a choed tân sy’n arwain at lawer o werthu uniongyrchol sy’n ei gadw’n brysur iawn!   
  • Dywed Tomos bod buddsoddi mewn system odro ynni solar sydd wedi ennill gwobrau gan CAFC ac yn gweithredu oddi ar y grid yn 2022, gan werthu llaeth wedi ei bastwreiddio o beiriant gwerthu ar ben lôn y fferm, wedi gwneud gwahaniaeth anferth i hyfywedd tymor hir y fferm. 
  • Er bod ei draethawd hir yn y Brifysgol am faethiad anifeiliaid, oherwydd ei fod yn brin o amser, mae’n gweithio gyda maethegydd fferm i sicrhau ei fod yn dilyn y patrwm porthi gorau ar gyfer ei holl anifeiliaid, ond mae Tomos eisoes yn bwriadu buddsoddi mewn meddalwedd newydd a fydd yn gadael iddo lunio dognau dyddiol a gwella’r system gyfredol o fonitro perfformiad stoc a’u cynhyrchiant. 
  • Mae Tomos yn edrych ymlaen at rannu ei wybodaeth a’i sgiliau ar ran Cyswllt Ffermio, swydd y mae’n gyfarwydd â hi, ac yntau wastad wedi annog lleoliadau myfyrwyr ar y fferm, ac fel y gwelwch o’i restr o arbenigeddau, mae ganddo lawer o arbenigedd i’w gynnig! 

Busnes fferm presennol

  • Mae’r fenter ffermio gymysg ar hyn o bryd yn cynnwys godro, defaid, dofednod a phum erw o gnydau llysiau.  
  • Prynodd y teulu beiriant gwerthu yn 2022, ar ben lôn y fferm.  Maent yn gwerthu llaeth wedi ei bastwreiddio, wyau a thatws, yn ogystal â choed tân, yn uniongyrchol i gwsmeriaid.
  • Bydd 60 o fuchod llaeth a’u dilynwyr yn cael eu godro’n ddyddiol ar beiriant Lely sydd oddi ar y grid. 
  • Mae ganddynt ddiadell o ddefaid, 100 o famogiaid Texel pedigri a 350 o famogiaid croes Suffolk.  Cedwir yr ŵyn Texel yn hesbinod a hesbyrddod a gwerthir tua 30 o hyrddod yn flynyddol i fagu. Gwerthir yr ŵyn croes Suffolk yn dew, mae’r holl ŵyn yn cael eu gorffen ar y fferm. 
  • Maent yn cadw tua 200 o ieir sy’n cynhyrchu wyau a werthir o giât y fferm. 
  • Cedwir yr holl loeau bîff o’r buchod llaeth a’u gorffen ar y fferm.  Bydd bustych yn cael eu gorffen a’u gwerthu, a bydd heffrod yn cael eu gwerthu gyda lloeau wrthynt. 
  • Maent hefyd yn cadw buches fach o wartheg Swydd Henffordd pedigri. 
  • Ar hyn o bryd mae Tomos yn cynhyrchu silwair gwair ac india corn, ac mae ganddo fusnes contractio i wneud silwair a byrnau.

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • BSc (Gwyddor Anifeiliaid) o Brifysgol Nottingham, yn arbenigo mewn maethiad anifeiliaid 

  • Gwnaed yn bartner ym musnes ffermio ei dad yn 2016

  • Gweithio am flwyddyn ar uned laeth fawr yn lleol, felly yn deall manteision graddfa

  • Wedi datblygu busnes newydd yn gwerthu tatws a choed tân yn uniongyrchol i ddefnyddwyr

  • Wedi gosod y system odro robotig oddi ar y grid gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 2020 yn ystod Covid, mewn cyfnod byr iawn, pan oedd ganddynt ddim ond tri mis i drosi sied a chael y gwartheg i mewn yno.

  • Cychwyn menter werthu llaeth yn 2022, ac wedi ennill gwobr aur am laeth cyflawn gan CAFC yn 2022

  • Yn cymryd rhan mewn grŵp trafod Cyswllt Ffermio ar gyfer godro sy’n cynnwys meincnodi
     

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Peidiwch byth â digalonni, gwnewch eich ymchwil yn drwyadl a chwilio am yr holl gyngor y gallwch chi boed gan ffermwyr eraill neu trwy hyfforddiant.   Bydd yn werth chweil yn y diwedd!”
“Peidiwch â throi cefn ar ddim byd, edrychwch ar y posibiliadau i gyd a allai wneud eich fferm yn fwy cynaliadwy a mwy proffidiol.”