Treialu technoleg LoRaWAN a Nofence mewn systemau pori gwartheg eang
Nod y prosiect hwn yw rhoi sylw i’r heriau mewn systemau pori gwartheg eang, yn enwedig mewn ardaloedd ucheldir, drwy ddefnyddio technoleg LoRaWAN i fonitro anifeiliaid o bell. Bydd y prosiect yn integreiddio data ar ymddygiad anifeiliaid a data ar ffiniau technoleg Nofence gyda gwaith monitro iechyd a lleoliad LoRaWAN. Yn y pen draw, trwy ganfod atebion ar gyfer rheoli gwartheg yn eang sy’n addas ar raddfa fawr, yn broffidiol ac yn canolbwyntio ar les, gallai hyn arwain at fwy o wartheg yn dychwelyd i’r ucheldir, mwy o bori cadwraeth, a gwell bioamrrywaieth a phriddoedd iachach o ganlyniad i arferion amaethyddol adfywiol.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
- Storio carbon
- Tirweddau naturiol gwarchodedig
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Ecosystemau cydnerth