Trin y tir cyn lleied â phosibl yn gwella ansawdd y glaswellt ar safle arddangos Cyswllt Ffermio

3 Mawrth 2023

 

Mae defnyddio technegau sy’n trin y tir cyn lleied â phosibl (min-till) i adfywio porfeydd ar fferm ddefaid a bîff yng Nghymru wedi gwella ansawdd y glaswellt fel porthiant.

Mae Edward ac Ellis Griffith yn ffermio Bodwi, ger Pwllheli, ac maent hefyd yn rhentu darn o dir yng Nghricieth lle maent yn pori eu mamogiaid Suffolk croes a’u gwartheg magu Stabilier ar system gylchdro.

Er nad yw’r darn hwnnw o dir wedi cael ei drin am sawl degawd, mae wedi bod yn gynhyrchiol gan eu bod yn rhoi calch a gwrtaith arno’n rheolaidd. 

Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diweddar mae mwsogl wedi effeithio ar gynhyrchiant ac ansawdd y glaswellt.

Fel ffermwyr arddangos Cyswllt Ffermio, ym mis Mehefin 2022 aeth Edward ac Ellis ati i adfywio’r borfa gan ddefnyddio amrywogaethau glaswellt newydd a thechnegau sy’n trin y tir cyn lleied â phosibl, yn cynnwys defnyddio og tshaen ar y cyd ag awyru’r pridd.

Cafodd hadau eu hau’n uniongyrchol mewn tair llain 2.8 hectar (ha) lle’r oedd mwsogl yn amlwg iawn. 

Cafodd un llain ei hawyru a’i llyfnu ag og, defnyddiwyd yr og yn unig ar lain arall ac roedd y drydedd llain yn rheolydd lle na chafodd unrhyw dechnegau eu defnyddio.

Cymrwyd samplau yn gyntaf i asesu staws maethol y pridd ac roedd y canlyniadau yn rhesymol, heblaw am y ffaith bod lefel potasiwm (K), ar fynegai 1, yn is na’r optimwm.

Aseswyd y pridd yn weledol hefyd a phrin iawn oedd yr arwyddion o unrhyw broblemau cywasgu.

Cafodd yr hadau eu hau ym mis Mehefin 2022 ac yna cafodd ansawdd a swm y glaswellt ei fonitro drwy gydol y tymor tyfu.

Roedd yn dymor tyfu heriol gyda thymereddau eithriadol o uchel am gyfnod parhaus, a glawiad isel iawn.

Dangosodd canlyniadau’r treial fod y glaswellt yn y llain a gafodd ei hawyru a’i llyfnu ag og wedi sgorio uchaf o ran gwerth treuliadwyedd (D), protein crai (CP) ac egni metaboladwy (ME) – sef gwerth D 62.9, 21.4% CP ac ME 9.9MJ/kg.

Yn achos y llain lle defnyddiwyd yr og, cofnodwyd y canlyniadau a ganlyn: gwerth D 62.4, 20.8% CP ac ME 9.8MJ/kg.

Y llain rheolydd wnaeth sgorio isaf ar gyfer y tri chategori uchod, sef gwerth D 61.7, 17.5% CP ac ME 9.7MJ/kg.

Dangosodd samplau cynnar fod y cymeriant potasiwm a chlorid yn uwch yn y lleiniau a gafodd eu trin ac, yn hwyrach yn y tymor, roedd y proffil macrofaethol cyfan ychydig yn uwch yn y lleiniau a gafodd eu trin, gyda CAB gwell o’i gymharu â’r ardal rheolydd.

Yn ôl Non Williams, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, a fu’n goruchwylio’r treial, roedd hyn yn dangos bod y gwaith ailhau yn llwyddiannus, gan fod y tueddiadau hyn yn awgrymu gwndwn glaswellt yn y camau twf cynharach.

Roedd samplau a gymrwyd yn hwyrach yn y tymor yn dangos bod protein crai, gwerth D a chynnwys ME yn uwch yn y ddwy lain a gafodd eu trin cyn lleied â phosibl o’u cymharu â’r rheolydd.

Er bod y gwahaniaethau yn fach, roeddynt yn gyson ac unwaith yn rhagor maent yn awgrymu gwndwn sy’n fwy ifanc, dywedodd Dr Williams.

Ychwanegodd fod y treial wedi dangos gwerth trin y tir cyn lleied â phosibl.

“Roedd awyru a defnyddio og yn rhoi canlyniad ychydig yn well na defnyddio og yn unig, mae’n debyg gan fod awyru yn crafu arwyneb y pridd ac yn tynnu rhywfaint o’r gwellt, ond roedd defnyddio og yn unig yn fuddiol ac yn rhatach.’’

O ganlyniad, roedd gwerth porthiant uwch yn y gwndwn yn y lleiniau nad oedd wedi cael eu trin, dywedodd Dr Williams.

Er nad oedd y gwahaniaethau yn sylweddol yn ystadegol, dywedodd fod hyn o ganlyniad i’r tymor tyfu heriol yn ôl pob tebyg. 

Mae adfywio glaswelltir drwy drin y tir cyn lleied â phosibl neu ddim o gwbl yn dod yn fwyfwy poblogaidd wrth i ffermwyr geisio gwella eu dulliau rheoli pridd a’u cynnwys deunydd organig. 

Yn ôl Dr Williams, gall adfywio porfeydd hŷn drwy droshau fod yn ddull effeithiol o wella cynhyrchiant ac ansawdd porfeydd heb faich ariannol ac amgylcheddol aredig.

 

Cyngor ar baratoi caeau i drin y tir cyn lleied â phosibl neu ddim o gwbl

  • Cymerwch samplau o’r pridd – mae prawf diweddar yn hanfodol cyn dechrau arni
  • Dylech bob amser werthuso cyflwr y pridd drwy wneud tyllau i gynnal asesiad gweledol 
  • Dewiswch y lefel ymyrraeth sy’n fwyaf priodol i gyflwr y pridd – gallai hynny olygu gadael llonydd i’r tir am gyfnod a’i adfer, neu ddefnyddio og, awyru neu beiriannau dan y pridd
  • Ni fydd gwaith adfer yn rhoi’r un canlyniadau ag hailhau’r gwndwn yn llwyr, ond bydd yn dod â llawer o fuddion, gan gynnwys rhai ariannol, a bydd yn osgoi amharu ar y pridd os nad oes angen gwneud hynny

 

FFEITHIAU AM Y FFERM

247ha yn cael eu ffermio

1,170 o famogiaid Suffolk croes a 320 o ŵyn mamogiaid

Yn wyna rhwng mis Ionawr a mis Mawrth

125 o wartheg magu Stabiliser 

Yn lloia ym mis Chwefror a mis Mawrth