Tros hau gan ddefnyddio da byw

Trwy Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, bydd Will yn treialu dull arloesol a chost isel o dros hau’r borfa gan ddefnyddio da byw. Mae hyn yn golygu hau cymysgedd o laswellt, codlysiau a pherlysiau’n eang dros borfa barhaol gyda pheiriant gwasgaru wedi’i osod ar gerbyd aml-dirwedd, gan waredu’r angen i drin y tir. Yna bydd da byw’n sathru’r hadau’n naturiol i sicrhau cyswllt gyda’r pridd, gan ddisodli cyswllt mecanyddol. Bydd yr arbrawf yn cymharu gwasgaru i’r gorchudd cyn pori ac ar ôl pori, gyda synwyryddion LoRaWAN yn darparu data amgylcheddol amser real (tymheredd a lleithder y pridd, tymheredd yr aer) i gyd-fynd ag eginiad yr hadau a llwyddiant i sefydlu. Nod y data yw llywio’r arferion rheoli glaswellt gorau posibl, gan gynnig budd i ffermwyr eraill mewn amgylcheddau tebyg.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon
  • Lleihau risg llifogydd a sychder