Mae Coffi Ferrari, a sefydlwyd gan Vittorio Ferrari ym 1927, yn fusnes coffi enwog o Ben-y-bont ar Ogwr. Yn adnabyddus am gymysgu a rhostio coffi o dros 16 o wledydd, mae Ferrari's Coffee wedi esblygu o gyflenwi caffis a bwytai lleol i wasanaethu'r sectorau cyhoeddus a phreifat ac allforio i bum gwlad wahanol. O dan berchnogaeth newydd, mae'r cwmni'n parhau i ddefnyddio ei ddulliau cymysgu a rhostio traddodiadol wrth ehangu ei gyrhaeddiad a'i enw da byd-eang.

Mae’r cwmni wedi elwa ar gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi helpu Ferrari’s Coffee i ennill achrediadau, cymryd rhan mewn sioeau masnach rhyngwladol, a sefydlu cysylltiadau cryf â busnesau bwyd a diod eraill.

Share this page

Print this page