Sefydlwyd Gwinllan Sticle ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin yn 2019. Mae’n un o’r gwinllannoedd mwyaf yng Nghymru gyda 25 erw a 10,000 o winwydd pefriog o Chardonnay, Pinot Noir, a Pinot Meunier.
Mae’n winllan organig/ biodynamig (yn aros am ardystiad) sy’n parchu’r amgylchedd ac yn cefnogi ei heconomi leol gyda swyddi.