Wedi’i sefydlu gan Scott Davies yn 2011 yn 23 oed, mae Hilltop Honey yn gwmni mêl a surop masarn amlwg yn y Drenewydd, canolbarth Cymru. Mae'r cwmni'n cyflogi 130 o bobl ac yn cyflenwi traean o farchnad y DU, gan gynhyrchu 14,000 tunnell o fêl mewn gwahanol ffurfiau. Mae Hilltop Honey wedi cael cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyrsiau Datblygu Sgiliau Busnes, cymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni, a chymorth drwy’r Cynllun Cyflymydd Busnesau Bwyd a’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd. Mae’r cymorth hwn wedi helpu Hilltop Honey i ennill gwobrau ac achrediadau niferus, gan gynnwys dod y brand mêl cyntaf yn y DU i gael ei ardystio fel B Corp yn 2022.