Mae Hufenfa De Arfon, a sefydlwyd ym 1937, yn fenter gydweithredol yng ngogledd-orllewin Cymru. Gyda 152 o gynhyrchwyr llaeth yn gydberchnogion ar y cwmni, mae’r hufenfa’n prosesu llaeth yn gynnyrch llaeth amrywiol, gan gynnwys tua 15 o wahanol gawsiau yn amrywio o gaws Cheddar mwyn i aeddfed, a chawsiau Prydeinig traddodiadol. Mae brand Dragon yn rhan sylweddol o'u busnes, yn darparu ar gyfer cwsmeriaid Cymreig ac yn cynhyrchu detholiad eang o gynhyrchion wedi’u brandio ar gyfer manwerthwyr.

Mae’r cwmni wedi cael cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig drwy’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd, sydd wedi bod yn hollbwysig ar gyfer eu prosiectau twf a datblygu, fel prosiect Dragon. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi eu mentrau allforio, gan gynnwys prosiect yn yr Unol Daleithiau.

Share this page

Print this page