Blas Cymru / Taste Wales 2017

Blas Cymru / Taste Wales 2017 oedd y digwyddiad masnach ryngwladol mawr cyntaf i arddangos y gorau o'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghlwb Golff Gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd (22 – 25 Mawrth 2017).

Daeth dros 150 o brynwyr masnach i'r digwyddiad a chawsant gyfle i gyfarfod a rhwydweithio gyda dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru. Mynychodd ymwelwyr a phrynwyr rhyngwladol o 14 o wledydd ledled Ewrop, Gogledd America, y Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell.

Hwyluswyd dros 1,200 o gyfarfodydd busnes un-i-un a gynhyrchodd dros £16m o fusnes newydd i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.

Astudiaethau Achos - BlasCymru 2017

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Astudiaethau Achos - BlasCymru 2017