Blas Cymru / Taste Wales 2019

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad Blas Cymru / TasteWales yng Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd (20-21 Mawrth 2019).

Thema digwyddiad 2019 oedd 'Cyflymu Twf Cynaliadwy – yn gyflymach, yn ddoethach ac yn wyrddach'.

Croesawodd Blas Cymru / Taste Wales 2019 190 o brynwyr masnach i Gymru, gan gynnwys prynwyr rhyngwladol o 18 gwlad, a 150 o fusnesau bwyd a diod o Gymru.

Cynhaliwyd cyfanswm o 1,600 o gyfarfodydd, gan gynnwys trafodaethau rhithwir, fel rhan o'r broceriaeth "Cwrdd â'r Prynwr" rhwng prynwyr masnach a busnesau bwyd a diod Cymru, a gynhyrchodd £12m mewn cytundebau newydd.