Blas Cymru / Taste Wales 2021

Yn dilyn llwyddiant ysgubol digwyddiadau 2017 a 2019, cynhaliwyd BlasCymru/TasteWales 2021 am y tro cyntaf yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru (ICCW), Casnewydd (10-11 Mawrth 2021).

Thema digwyddiad 2021 oedd 'Bwyd a Diod ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol'. Er gwaethaf y pandemig Covid, cymerodd mwy na 100 o fusnesau bwyd a diod o Gymru ran ac roedd 200 o brynwyr masnach yn bresennol, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r prif fanwerthwyr a phartneriaid masnach allweddol y gwasanaeth bwyd a lletygarwch, yn ogystal â urddau rhyngwladol yn y DU.

Cynhaliwyd cyfanswm o 1,695 o gyfarfodydd Covid-ddiogel, gan gynnwys trafodaethau rhithwir, fel rhan o'r broceriaeth "Cwrdd â'r Prynwr" rhwng prynwyr masnach a busnesau bwyd a diod Cymru, a gynhyrchodd £16m mewn cytundebau newydd.

 

Blas Cymru / Taste Wales 2021 - Diwrnod 2